Alert Section

Cyngor i fusnesau - safonau masnach


Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim lle mae swyddogion hyfforddedig yn darparu cyngor ac arweiniad i fasnachwyr y sir i’w helpu nhw i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth rydym ni’n ei gorfodi. Nid ydym yn darparu cyngor mewn perthynas ag anghydfodau rhwng busnesau.

Rydym ni’n:

  • Ceisio sicrhau amgylchedd masnachu teg a diogel i ddefnyddwyr a busnesau fel ei gilydd
  • Gorfodi’r gyfraith a’r rheoliadau sy’n llywodraethu nwyddau a gwasanaeth rydym ni’n eu prynu, eu llogi neu’n eu gwerthu
  • Hyrwyddo arferion masnachu teg, diogel a gonest yn Sir y Fflint
  • Darparu cymorth a chyngor i fusnesau a defnyddwyr, gan feddu ar ddyletswydd statudol i orfodi ystod eang o gyfreithiau defnyddwyr
  • Gorfodi deddfwriaeth diogelu defnyddwyr mewn perthynas â nwyddau anniogel, disgrifiadau cynnyrch, pwysau ysgafnach ac ati, ac yn meddu ar y pwerau i sicrhau cydymffurfedd â’r gyfraith

Gwelwch Siarter Busnes - Safonau Masnach am fwy o wybodaeth. Mae’r siarter hon yn egluro’r gwasanaethau Safonau Masnach sydd ar gael i fusnesau Sir y Fflint. 

Taflenni cyngor i fusnesau

I weld amrywiaeth o daflenni cyngor i fusnesau ar-lein ewch i’r wefan ganlynol: https://safonaumasnach.llyw.cymru/cym/business-support/


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener