Gwerthu i rai dan oed
Mae gan Wasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint ddyletswydd i orfodi deddfwriaeth sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc rhag nwyddau niweidiol a difrodol megis alcohol, sigarennau, tân gwyllt a thoddyddion; trwy wahardd pobl rhag gwerthu'r nwyddau hyn i bobl sy'n iau nag oedrannau penodol.
Os ydych yn gwybod neu'n amau bod siop yn gwerthu nwyddau yn anghyfreithlon i bobl dan oed, gallwch hysbysu'r Gwasanaeth Safonau Masnach. Yna gallwn gymryd camau priodol i'w hatal rhag gwneud hyn. I'n hysbysu o achos o werthu nwyddau i rai dan oed, cysylltwch â ni.
Cyngor pellach i fusnesau
Rydym yn cynghori a chefnogi busnesau i'w helpu i ddeall y ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â nwyddau sy'n cael eu cyfyngu gan oedran. I ofyn am gyngor am werthu nwyddau sy'n gysylltiedig ag oedran, cysylltwch â ni.
Mae taflenni cyngor am nwyddau a gyfyngir gan oedran ar gael ar wefan Safonau Masnach Cymru (ffenestr newydd). Mae'r rhain yn cynnwys rhestr o nwyddau, oedrannau lleiaf y bobl a all eu prynu a'r gosb fwyaf y gall rhywun ei chael am werthu nwyddau i bobl sy'n iau na'r oedran lleiaf hwnnw.
Gwirfoddolwyr profion prynu
Os ydych yn rhiant i unigolyn ifanc neu os ydych yn unigolyn ifanc sydd â diddordeb mewn helpu Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint i fynd i'r afael â gwerthu nwyddau i bobl dan oed ac os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni
Gyflwyno ffurflen ymholiad
Ffoniwch: 01352 703181
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Ysgrifennwch at: Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF