Alert Section

Trefnu Digwyddiad


Gall trefnu digwyddiad, waeth pa mor fach neu fawr ydyw, gymryd llawer o amser a gall fod yn dasg anodd. Nid oes unrhyw reolau pendant wrth drefnu digwyddiad cymunedol – ond mae llawer o bethau y gallwch eu rhoi ar waith i sichrau fod eich digwyddiad yn cael pob siawns i lwyddo a bod yn brofiad sy’n rhoi boddhad.

Gall digwyddiadau a gwyliau fod yn ysgogwyr economaidd a chymdeithasol sy’n annog buddsoddiad ariannol a chymdeithasol gan amryw o sefydliadau a chymunedau sy’n denu nawdd gan fuddsoddwyr preifat a chyhoeddus.

Mae Sir y Fflint yn gwesteio cyfoeth o wyliau a digwyddiadau o wahanol feintiau; o sioeau amaethyddol a sirol a ffeiriau pentref a marchnadoedd ffermwyr i gyngherddau awyr agored a gwyliau cerddorol, theatr a pherfformiadau stryd. Mae’r digwyddiadau a’r gwyliau hyn yn cael amryw o effeithiau cymdeithasol ac economaidd.

Digwyddiadau - Canllawiau Trefnwyr

Calendr Digwyddiadau