Alert Section

Gyrfaoedd

Dyma gyflwyno Gwella, enw masnachu newydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig.

Mae Gwella yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am reoli canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, datblygu chwaraeon, Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gwasanaethau treftadaeth a mannau chwarae i blant yn Sir y Fflint.

Mae’n hyfryd gweld bod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm Gwella. Mae gennym amrywiaeth eang o swyddi ar gael ar draws ein gwasanaethau, gan gynnwys swyddi proffesiynol a chyfleoedd i weithwyr wrth gefn.

Mae rhestr o bob un o’n swyddi gwag i’w gweld isod.  

Gwella Logo - Dark Variant

Gwella bywydau drwy iechyd a lles.

swoosh

Ymgynghorydd Cwsmeriaid - Gweithwyr Wrth Gefn (Canolfannau Hamdden Bwcle, Y Fflint a’r Wyddgrug)


Swydd-ddisgrifiad

Rydym  yn dymuno recriwtio rhywun sydd â brwdfrydedd am wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, sy’n gallu ymdrin yn effeithiol ag amrywiaeth o ymholiadau a dderbynnir wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu e-bost.   Mae awydd i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid drwy fynd gam ymhellach yn allweddol i’r rôl hon.

  • Cyfradd Tâl: £12.21 yr awr (codiad cyflog yn yr arfaeth), gweithwyr wrth gefn
  • Dyddiad Cau Ceisiadau: 01/06/2025
  • Buddion: Aelodaeth o gampfa a sba am bris gostyngol
  • Gweithiwr Wrth Gefn: Nid yw gweithwyr wrth gefn yn weithwyr ar gontract ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i gynnig na derbyn gwaith. Er hynny, mae bod ar ein rhestr o weithwyr wrth gefn yn gallu bod yn gyfle gwych i unigolion ddarganfod mwy am ein cwmni wrth ddefnyddio a datblygu sgiliau a phrofiadol gwerthfawr mewn ffordd hyblyg.

Gwneud cais

Lawrlwytho ffurflen gais

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi dros e-bost i chris.owen@gwella.wales

Hyfforddwr Arweiniol - Gweithwyr Rhyddhad


Swydd-ddisgrifiad

Rydym yn dymuno recriwtio unigolion sy’n frwdfrydig am hyfforddi chwaraeon mewn ystod o leoliadau ysgol a chymuned gan gynnwys clybiau, grwpiau ieuenctid a rhaglenni gweithgaredd gwyliau. Bydd y rôl yn gweithredu o dan oruchwyliaeth gyffredinol Swyddogion Chwaraeon Gwella. 

  • Cyfradd Tâl: £14.15 yr awr (codiad cyflog yn yr arfaeth), gweithwyr wrth gefn
  • Dyddiad Cau Ceisiadau: 01/06/2025
  • Buddion: Aelodaeth o gampfa a sba am bris gostyngol
  • Gweithiwr Wrth Gefn: Nid yw gweithwyr wrth gefn yn weithwyr ar gontract ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i gynnig na derbyn gwaith. Er hynny, mae bod ar ein rhestr o weithwyr wrth gefn yn gallu bod yn gyfle gwych i unigolion ddarganfod mwy am ein cwmni wrth ddefnyddio a datblygu sgiliau a phrofiadol gwerthfawr mewn ffordd hyblyg.

Gwneud cais

Lawrlwytho ffurflen gais

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi dros e-bost i dan.williams@gwella.wales