Alert Section

Rheoli Cyrchfan Sir y Fflint


Mae elfen allweddol o’r dull ar gyfer adfywio a thwristiaeth yn Sir y Fflint yn canolbwyntio ar greu lleoedd o ansawdd uchel: lleoedd mae pobl yn dymuno ymweld â nhw, treulio eu hamser hamdden a gweithio yno. Mae lleoedd o ansawdd uchel yn denu buddsoddiad, maent yn gynaliadwy ac yn creu eu hegni a’u llwyddiant eu hunain.

I ymwelwyr, o fewn a’r tu allan i’r ardal, mae’r canolbwynt ar reoli’r prif gyrchfannau fel bod pob darn o’r jig-so sy’n cynrychioli eu profiad yn Sir y Fflint yn un cadarnhaol. O’r llety, i’r croeso ar y Stryd Fawr, i lanweithdra’r toiledau cyhoeddus - mae’r cyfan yn cyfrannu at brofiad cyffredinol ac yn pennu a fyddant yn dychwelyd a pha negeseuon a roddir i’w ffrindiau gartref.

Yn ogystal, mae gwella ansawdd y gyrchfan yn cynyddu cystadleuaeth. Mewn oes o ddisgwyliadau cynyddol, mae rheoli cyrchfan yn hanfodol i gystadlu mewn marchnadfa brysur. Gyda 4.7 miliwn o bobl yn byw o fewn 60 munud o daith, y dalgylch delfrydol i ymwelwyr diwrnod, mae gan Sir y Fflint farchnad anferth wrth law.

Amcangyfrifir bod y sector twristiaeth yn cefnogi 3,273 swydd uniongyrchol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd. Amcangyfrifir y cynhyrchir £252miliwn yn flynyddol o 3.7 miliwn o ymwelwyr sy’n aros a 2.7miliwn o ymwelwyr diwrnod.

Cynllun Strategol Rheoli Cyrchfan Sir y Fflint 2020