Alert Section

Llwyddiant Aur Soled 100%


Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu cyflawniad rhyfeddol Jade Jones, nid yn unig gyda phreswylwyr ei thref enedigol Fflint, ond â gweddill y DU. 

Yn 2012 roedd holl lygaid y wlad ar Lundain yn gwylio buddugoliaeth Jade yn ei Gemau Olympaidd cyntaf erioed, yn cipio’r fedal Aur.   Tipyn o gamp i ferch 19 oed.  

Nid oedd erioed unrhyw amheuaeth bod Jade yn mynd i wneud y gorau o etifeddiaeth gemau 2012 a phrofi bod ei dawn heb ei ail drwy gipio medal Aur Olympaidd am yr ail dro.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton:

“Mae llwyddiannau'r DU yn Rio wedi bod o'r radd flaenaf, ac mae’r ffaith fod Jade, athletwr o Sir y Fflint, wedi cyfrannu'n sylweddol at le Tîm Prydain ar dabl yr arweinwyr yn ysbrydoledig iawn.   Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Cyngor Tref y Fflint wrth groesawu Jade adref mewn steil.  Mae hi'n fodel rôl wirioneddol i bobl ifanc sy’n tyfu i fyny yn Sir y Fflint ac yn dangos sut gydag awydd gwirioneddol y gallwch gyflawni eich breuddwydion”

Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet Hamdden: 

“Hoffwn longyfarch Jade yn bersonol, enillydd medal aur dwbl yn 23 oed, mae’n ferch ifanc wirioneddol ysbrydoledig sydd wedi dangos, gyda gwaith caled parhaus ac ymroddiad, fod unrhyw beth yn bosibl. Byddwn yn gweithio dros y misoedd nesaf i sicrhau bod ein rhaglenni datblygu chwaraeon yn adeiladu ar lwyddiant Jade ac annog unrhyw un sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon i allu cymryd rhan a gwirioni ar chwaraeon.”


Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 

“Rwy'n falch iawn o allu ymuno â phobl ar hyd a lled Cymru a'r DU, i longyfarch Jade ar ei llwyddiant aruthrol.”


Ydi Jade wedi eich ysbrydoli chi i roi cynnig ar chwaraeon newydd?

Mae Rhaglen Datblygu Chwaraeon y Cyngor yn darparu ystod eang o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol.     I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r dudalen Datblygu Chwaraeon ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk.    

Mae nifer o ddosbarthiadau Taekwondo yn cael eu rhedeg gan glybiau lleol, gan ddefnyddio canolfannau hamdden y Cyngor, os hoffech chi gysylltu â chlwb yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol a fydd yn gallu rhoi manylion cyswllt i chi.