Cymuned y Lluoedd Arfog
Beth yw'r cyfamod?
Ni ddylai unigolion sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, Arferol neu Wrth Gefn, unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, na’u teuluoedd, wynebu anfantais o’i gymharu â dinasyddion eraill wrth gael darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae angen rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf, fel y rhai sydd wedi'u hanafu a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.
Datganiad o Ddisgwyliad
Mae’r rhwymedigaeth yn cynnwys pob aelod o gymdeithas: mae’n cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a chamau gweithredu unigolion sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod yr unigolion sydd wedi cyflawni dyletswydd filwrol yn uno’r wlad ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Does dim ffordd well o fynegi hyn na thrwy gefnogi’r Cyfamod hwn.
Cronfa’r Cyfamod
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi rhoi £10 miliwn y flwyddyn (Cronfa’r Cyfamod) i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae sawl maes blaenoriaeth ar gyfer ceisiadau grant, sy'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cael eu dewis i gefnogi darpariaeth y Cyfamod a chryfhau perthnasau rhwng y gymuned lluoedd arfog a’r gymuned sifil.
Y dull o godi pryderon
Os ydych chi’n dymuno cysylltu ag aelod o’r tîm cyfamod mewn perthynas â’ch pryderon neu os oes gennych brosiect ‘rydych yn teimlo y byddai'n elwa o gronfa'r cyfamod, Cysyllti a Ni.
Dogfennau
Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
Ein Cymuned – Ein Cyfamod
Croeso i Gymru
Rhoi a Derbyn