Alert Section

Diwrnod VJ 80

Cynhelir dau funud o dawelwch yn genedlaethol am hanner dydd ddydd Gwener, 15 Awst i nodi Diwrnod VJ (Buddugoliaeth yn Japan) 80, sef 80 o flynyddoedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben.

Mae hwn yn gyfle i ddod ynghyd i anrhydeddu’r rhai hynny a wasanaethodd ac i fyfyrio ar eu gwerthoedd, gwasanaeth ac anhunanoldeb ar draws ein cenedl, a arweiniodd at fuddugoliaeth y Cynghreiriaid.  Er i Ddiwrnod VE (Buddugoliaeth yn Ewrop) nodi diwedd y Rhyfel yn Ewrop ym mis Mai 1945, roedd miloedd o bersonél y Lluoedd Arfog yn dal i frwydro yn y Dwyrain Pell.

“Bu ymladd yn yr Asia-Môr Tawel o Hawaii i Ogledd Ddwyrain India. Roedd prif lu ymladd Prydain a’r Gymanwlad, y Bedwaredd Fyddin ar Ddeg, yn un o’r rhai mwyaf amrywiol mewn hanes – roedd mwy na 40 o ieithoedd yn cael eu siarad, a holl brif grefyddau’r byd yn cael eu cynrychioli.

Mae disgynyddion llawer o gyn-filwyr y Gymanwlad o'r fyddin honno heddiw yn rhan o gymunedau amlddiwylliannol ledled y byd, yn etifeddiaeth barhaol i lwyddiant a brawdgarwch y rhai a ymladdodd yn Asia-Môr Tawel”.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cenedlaethol a sut y gallwch gymryd rhan yn lleol, ewch i’r wefan. https://ve-vjday80.gov.uk/cy/vj-day/

Darllenwch ddatganiad Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-nodi-80-mlynedd-ers-diwrnod-vevj

Ymunwch â ni ar y Sgwâr a Chanolfan Daniel Owen ddydd Sadwrn 16 Awst 10am-2pm yn yr Wyddgrug ar gyfer arddangosfa filwrol yn cynnwys cerbydau, arfau a medalau'r Ail Ryfel Byd: Poster Yr Wyddgrug VJ 80