Alert Section

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus – Rheolaeth Alcohol


Dydd Llun, 5 Mehefin 2023 - dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau newydd a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Fe’u lluniwyd i atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn mewn modd gwrth-gymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael, neu'n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd y bobl sydd yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus o ran ei natur.

Yn 2017, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Alcohol. Mae'r Cyngor bellach yn ymgynghori ynghylch ymestyn y gorchymyn presennol. 

Dyma’r gwaharddiadau arfaethedig:

(a) mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.  

(b) mae unrhyw berson sydd, mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad, heb esgus rhesymol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.  

(c) mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n gosod gofyniad o dan Erthygl 4(a) ac/neu 4(b) uchod ddweud wrth y person fod methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad ac/neu’r gofyniad, heb esgus rhesymol, yn drosedd.

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, felly treuliwch ychydig o amser yn darllen y dogfennau sydd ynghlwm, sy’n cynnwys copi o’r gorchymyn drafft; dogfen 'Cwestiynau Cyffredin' a map o safleoedd posibl lle gallai'r gwaharddiadau gael eu gorfodi. Yna, llenwch ein harolwg ar-lein ar yr amodau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig.