Alert Section

Ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans


Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i'r Cyngor Sir a'r asiantaethau cyhoeddus a gwirfoddol y mae'n gweithio â nhw i wella diogelwch cymunedol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Ymddygiad stwrllyd a swnllyd yn y gymuned
  • Fandaliaeth, graffiti a chodi posteri yn anghyfreithlon
  • Ymddygiad di-foes
  • Tipio anghyfreithlon neu adael sbwriel
  • Yfed ar y stryd
  • Cymdogion sy'n achosi niwsans

Beth sydd ddim yn cael ei alw yn ymddygiad gwrthgymdeithasol?

  • Sŵn plant sy'n chwarae
  • Gwahaniaethau personol
  • Anghydfodau teuluol
  • Synau bywyd bob dydd, megis tynnu dŵr y toiled a chau drysau.

Pan roddir gwybod am ddigwyddiadau, gall yr atebion gynnwys rhoi offer megis larymau personol, larymau ffenestri neu well cloeon drysau a ffenestri ar gyfer y rheini sy'n fregus neu'n dioddef dro ar ôl tro.

Gellir rhoi tactegau dargyfeiriol ac ataliol yn eu lle mewn mannau problemus a chymryd camau gorfodi neu wneud atgyfeiriad at wasanaethau cymorth ble mae angen ar gyfer troseddwyr gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol neu broblemau iechyd meddwl.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os oes rhywun yn ymddwyn yn dreisgar, yn fygythiol neu'n ymosodol, neu os ydych yn gweld rhywun yn creu difrod troseddol, fandaliaeth neu'n ymddwyn mewn modd stwrllyd, dylech ffonio'r heddlu ar 999 ar unwaith mewn argyfwng.

Dylid rhoi gwybod yn uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol nad ydynt yn argyfyngau trwy ffonio 101.

Mae Wardeiniaid Cymdogaeth Sir y Fflint hefyd yn darparu presenoldeb gweladwy iawn a hygyrch mewn lifrai ar draws y sir ac yn patrolio ardaloedd sydd â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar droed ac mewn cerbydau. Mae'r Wardeiniaid yn gweithio yng nghanol y gymuned ac yn galluogi'r trigolion i hysbysu rhywun wyneb yn wyneb. Gellir cysylltu â Gwasanaeth Wardeiniaid Cymdogaethol Sir y Fflint yn uniongyrchol ar 01352 701818.

Gellir cysylltu â Thîm Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint yn uniongyrchol ar 01352 702590.

Dylai  tenantiaid cymdeithasau tai gysylltu â'r Gymdeithas yn uniongyrchol yn gyntaf.