Alert Section

Drosedd casineb


Trosedd casineb yw lle bydd unigolion yn cael eu targedu am eu hunaniaeth neu'r hyn y bydd rhywun yn ystyried yn wahaniaeth. Gallai fod yn weithred o drais, gelyniaeth neu wahaniaethu. Gallai dioddefwyr fod wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin.  Gall hyn ddigwydd yn y gweithle. 

Mae troseddau casineb yn difetha bywydau ac yn arwahanu unigolion bregus a chymunedau. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd ond mae’r achosion yn dal i gael eu tan-riportio. Heb i’r achosion hyn gael eu riportio, mae troseddwyr yn rhydd i barhau i ddal ati i droseddu.

Rydym am i hyn newid.

Rydym am i bawb annog a chefnogi pobl i siarad am droseddau casineb ac yn bwysicaf oll i’w RIPORTIO.   


Beth yw Trosedd Casineb?

Unrhyw ddigwyddiad trosedd sydd yn drosedd, y mae’r dioddefwr neu unigolyn arall yn credu ei fod yn cael ei gymell gan ragfarn neu elyniaeth. 

Mae Digwyddiad Casineb yn ddigwyddiad (waeth pa un a yw’n cynnwys trosedd ai peidio) sy’n cael ei ystyried gan y dioddefwr neu unrhyw un arall, sydd wedi’i gymell gan ragfarn neu elyniaeth.

Drwy fynd i’r afael â’r math hwn o drosedd gyda’n gilydd, rydym yn gobeithio gwneud Sir y Fflint yn le mwy diogel i fyw. 


Rhoi Gwybod am Droseddau Casineb

Dylid rhoi gwybod am Droseddau Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn argyfwng) neu drwy gyflwyno Ffurflen Rhoi Gwybod am Drosedd Casineb i Heddlu Gogledd Cymru.

Gellir hefyd rhoi gwybod am Droseddau Casineb yn uniongyrchol i Gymorth i Ddioddefwyr, sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl sy’n rhoi gwybod am droseddau casineb ac achosion o gasineb ar draws Cymru. 

Ymwelwch â gwefan Cymorth i Ddioddefwyr a llenwch eu Ffurflen Adrodd Cyfrinachol;  Fel arall, gallwch ffonio llinell gymorth 24 awr Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982. 

Mae Cyngor Sir y Fflint bellach wedi cofrestru ar gyfer Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.  Mae’r siarter yn nodi hawliau dioddefwyr, ac ymrwymiadau’r sefydliadau sy’n arwyddo’r siarter. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y Siarter yma.