Alert Section

Wardeniaid Cymdogaeth


Gwella Diogelwch

Mae'r Wardeniaid yn darparu ac yn gosod offer gwella diogelwch i drigolion Sir y Fflint sydd wedi dioddef trosedd neu sy’n cael eu hystyried yn ‘ddiamddiffyn’. Maen nhw hefyd yn ymweld â thrigolion ar gais i ddarparu sicrwydd a chyngor ar ddiogelwch. Gellir atgyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn yn uniongyrchol drwy’r Wardeniaid neu drwy Gwarchod y Gymdogaeth.  

Dylid cyfeirio atgyfeiriadau gwella diogelwch mewn perthynas â Cham-drin Domestig, y cynllun 'Homesafe', yn uniongyrchol at y Wardeniaid Cymdogaeth.

Ar gyfer offer gwella diogelwch arbenigol neu drydanol, e.e. camerâu, dylid cyfeirio atgyfeiriadau at Gwarchod y Gymdogaeth.

Graffiti a Thipio Anghyfreithlon

Mae'r gwasanaeth gwaredu graffiti bellach yn rhan o’r Gwasanaethau Stryd. Fodd bynnag, mae'r wardeniaid yn gallu gwneud atgyfeiriadau i gael gwared ar graffiti, tipio anghyfreithlon a sbwriel os oes angen.

Patrolau 

Mae'r Wardeniaid yn cynnal patrolau fel rhan o'u dyletswyddau bob dydd ac yn targedu ardaloedd problemus penodol.

Atgyfeiriadau

I wneud atgyfeiriadau cyffredinol mewn perthynas â gwella diogelwch a phatrolau ffoniwch 01352 701818. Mae'r swyddfa ar agor o 0900 tan 1700. I wneud atgyfeiriadau ar gyfer offer arbenigol ffoniwch Gwarchod y Gymdogaeth ar 01352 708118.