Mae’r strategaeth Prevent yn rhan o strategaeth gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU, a elwir yn CONTEST. Y prif nod yw diogelu unigolion rhag dod i gysylltiad â therfysgaeth neu gefnogi syniadau eithafol. Mae Prevent yn gweithio drwy nodi pobl a allai fod yn agored i gael eu radicaleiddio a darparu’r gefnogaeth briodol sydd ei hangen arnynt yn gynnar. Nid ydym yn canolbwyntio ar droseddoli unigolion neu gymunedau, ond yn hytrach, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu ac atal, a helpu pobl cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng.
Nid yr heddlu a gwasanaethau diogelwch yn unig sy’n gyfrifol am Prevent. Mae’n ddull amlasiantaeth sy’n cynnwys darparwyr addysg, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, llywodraeth leol, grwpiau cymunedol, ac aelodau’r cyhoedd. Mae gan bawb ran i’w chwarae o ran cydnabod yr arwyddion o rywun mewn perygl a chymryd y camau cywir i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
Deall Radicaleiddio a Diamddiffynedd
Radicaleiddio yw’r broses sy’n arwain rhywun at gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth a all arwain at derfysgaeth. Gall pobl fod yn agored i radicaleiddio am nifer o resymau personol, emosiynol a chymdeithasol. Nid yw bob amser yn amlwg ac fe all effeithio ar bobl o bob oed, cefndir a chred.
Mae rhai arwyddion sy’n gallu awgrymu bod rhywun yn cael eu radicaleiddio. Gallai’r rhain gynnwys:
- newidiadau mewn ymddygiad neu agwedd,
- tynnu allan o weithgareddau neu gylchoedd cymdeithasol arferol,
- mynegi barn eithafol,
- neu ddangos obsesiwn am syniadau arbennig, neu arwahanrwydd cymdeithasol.
Nid yw’r arwyddion hyn bob amser yn golygu bod rhywun mewn perygl, ond os oes mwy nag un ohonynt yn dod i’r amlwg neu’n ymddangos yn groes i gymeriad, mae’n bosibl ei bod hi’n amser cael sgwrs neu geisio cefnogaeth. Mae Prevent yma i gynnig cefnogaeth mewn modd cyfrinachol a gofalgar.
Mae gwybodaeth bellach ar sut i adnabod yr arwyddion ar gael ar ACT Early.
Channel: Cymorth Gwirfoddol a Chefnogol
Mae Channel yn rhan allweddol o Prevent. Mae’n rhaglen wirfoddol a luniwyd i gefnogi pobl sydd o bosibl mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Mae’r broses yn gyfrinachol ac yn canolbwyntio ar gymorth cynnar, nid cosbi a throseddoli.
Caiff cynlluniau cymorth eu creu i fodloni anghenion pob unigolyn - p’un a yw hynny’n cynnwys lles emosiynol, addysg, perthnasoedd neu wasanaethau cymorth. Mae Channel ar gael i roi’r gofod a’r cyfarpar sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen yn ddiogel.
Mae cyfranogiad bob amser yn wirfoddol a bydd angen caniatâd. Ar gyfer rhai dan 18 oed, byddai angen caniatâd gan riant neu warcheidwad i gymryd rhan. Y nod yw diogelu a chefnogi, nid gosod stigma.
Cefnogaeth ac Atgyfeiriadau at Weithwyr Proffesiynol
Os ydych chi’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion mewn unrhyw leoliad - p’un a yw hynny yn y maes addysg, gofal, iechyd, tai neu waith cymdeithasol - rydych yn chwarae rôl allweddol o ran diogelu.
Os ydych yn pryderu am rywun, dilynwch eich proses ddiogelu arferol. Os yw’n teimlo’n briodol, gallwch hefyd lenwi Ffurflen Atgyweirio Genedlaethol i sicrhau fod y gefnogaeth gywir yn cael ei hystyried. Caiff atgyfeiriadau eu hadolygu’n ofalus gan dimau hyfforddedig i ddeall pa gymorth sydd ei angen.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr, efallai mai ceisio cymorth yn gynnar fyddai’r cam mwyaf effeithiol. Siaradwch â’ch arweinydd diogelu neu cysylltwch â rhywun sydd wedi’u hyfforddi mewn cefnogaeth Prevent i gael cyngor. Ni fydd pryderon yn cael eu diystyru - cânt eu hystyried o ddifrif ac ymdrinnir â hwy mewn modd sensitif.
Cefnogaeth i’r Cyhoedd - Beth fedrwch chi ei wneud
Mae aelodau teulu, ffrindiau, cymdogion, a chydweithwyr yn sylwi ar bethau nad yw pobl eraill yn sylwi arnynt. Os ydych chi’n poeni bod rhywun sy’n annwyl i chi o bosibl mewn perygl o gael eu dylanwadu gan syniadau niweidiol, nid oes rhaid i chi ymdopi â hynny ar eich pen eich hunan.
Gallwch ymweld ag ACT Early am gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth. Mae ganddynt straeon gan bobl go iawn, canllawiau ar sut i ddechrau sgwrs, a manylion ar beth i’w ddisgwyl os ydych chi’n codi pryder.
Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol neu’n bwriadu gwneud niwed i’w hunan neu eraill, ffoniwch 999 ar unwaith. Ar gyfer sefyllfaoedd lle mae llai o frys, gallwch siarad â’r heddlu drwy ffonio 101 neu gysylltu â thimau diogelu sy’n deall sut i helpu.
Gall gweithredu’n gynnar newid bywyd rhywun.
Cadw’n Ddiogel Ar-lein
Mae’r rhyngrwyd yn rhywle lle gall pobl gysylltu, dysgu a mynegi eu hunain. Ond mae hefyd yn rhywle y gall cynnwys niweidiol ledaenu’n gyflym, yn arbennig ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a fideos.
Mae grwpiau eithafol yn defnyddio’r llefydd hyn i hyrwyddo eu negeseuon neu dargedu unigolion diamddiffyn o bryd i’w gilydd. Gall pobl ifanc yn arbennig ddod ar draws y deunydd hwn, hyd yn oed os nad ydynt yn chwilio amdano’n uniongyrchol.
Siarad yn agored am y risg o gynnwys ar-lein yw un o’r ffyrdd gorau i ddiogelu’r bobl sy’n bwysig i chi. Defnyddiwch ddulliau meddwl beirniadol, ystyriwch ddiogelwch digidol gyda’ch gilydd, a gwnewch y mwyaf o osodiadau preifatrwydd a rheolyddion rhieni.
Bod yn bresennol gan osgoi cyfyngiadau yw’r dull mwyaf effeithiol fel arfer. Gallwch ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar wefannau megis Thinkuknow, Internet Matters, a CEOP.
Rhoi gwybod am ddeunydd eithafol
Os ydych chi’n gweld cynnwys ar-lein sy’n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth - p’un a yw’n fideo, neges, neu wefan - gallwch roi gwybod am hyn yn ddienw.
Mae gan y Swyddfa Gartref offeryn ar-lein i helpu i waredu’r math hwn o ddeunydd niweidiol. Nid oes rhaid i chi rannu eich manylion personol oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny. Caiff unrhyw adroddiad ei adolygu gan arbenigwyr hyfforddedig.
Ymwelwch â gov.uk/report-terrorism i roi gwybod.
Adnoddau a Hyfforddiant Prevent
Mae yna adnoddau ar gael i’ch helpu chi i ddysgu mwy am Prevent, sut i adnabod arwyddion radicalio a sut i ymateb yn ddiogel.
Os ydych chi’n rhiant, athro, gwirfoddolwr, gweithiwr ieuenctid neu’n pryderu am rywun sy’n agos atoch chi – mae gwybod y pethau sylfaenol yn gallu helpu. Mae gan bawb y pŵer i sylwi, gwrando a gweithredu.
Sylwi, Gwirio, Rhannu
Os nad ydi rhywbeth yn edrych yn iawn, cofiwch y camau syml yma:
- Sylwi ar ymddygiad neu newidiadau sy’n peri pryder
- Gwiriwch efo rhywun arall – arweinydd diogelu, cydweithiwr neu gyswllt Prevent
- Rhannwch y wybodaeth drwy’r broses atgyfeirio briodol
Fel hyn bydd pryderon yn cael eu trin yn gyfrifol ac mewn ffordd sy’n cefnogi’r unigolyn dan sylw.
Manylion Cyswllt a Rhagor o Wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am Prevent yn eich ardal chi neu i siarad efo rhywun ynglŷn â phryderon, fe allwch chi gysylltu â’ch Cydlynydd Prevent lleol neu dîm Prevent yr heddlu. Maen nhw yno i ddarparu cyngor, ateb cwestiynau a’ch tywys chi drwy’r broses atgyfeirio os oes angen.
Mae’r rhain yn ddolenni defnyddiol hefyd:
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymuned gryfach a mwy diogel drwy adnabod arwyddion radicalio, ymateb yn gynnar a chefnogi unigolion sydd angen ein cymorth.