Alert Section

Camddefnyddio sylweddau


Mae Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau (SMAT) Sir y Fflint, sef grŵp o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn lleol.

Prif flaenoriaeth SMAT yw sicrhau bod Strategaeth 10 Mlynedd Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008 – 2018, ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’, yn cael ei gweithredu’n lleol.  Mae’r blaenoriaethau lleol yn gydnaws â phedwar prif faes gweithredu’r strategaeth, gan gynnwys:

  • Atal niwed.
  • Cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau i wella eu hiechyd a chynorthwyo a chynnal eu hadferiad.
  • Cefnogi ac amddiffyn teuluoedd.
  • Mynd i’r afael â diffyg gwasanaethau ac amddiffyn unigolion a chymunedau trwy gyfrwng gweithgareddau gorfodi.

Cyngor a chymorth ar gael yn Sir y Fflint a’r ardal

  • Gwasanaethau Barnados yn Sir y Fflint – cymorth i deuluoedd
  • Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau
  • Sefydliadau a Rhaglen Ymyrryd â Chyffuriau
  • Gwasanaeth Lleihau Niwed
  • Gwasanaeth Gwella Cymhelliad
  • Gwasanaeth Cyfnewid Nodwyddau Chwistrell
  • Grŵp Pheonix - cymorth alcohol
  • Tîm Alcohol a Chyffuriau Pobl Ifanc

Partneriaethau

Mae Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Sir y Fflint a’i is-grwpiau yn cynnwys yr asiantaethau partner, y cynrychiolwyr a’r sefydliadau canlynol: 

  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Prawf Cymru
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Gwasanaeth Ieuenctid
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol
  • Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc
  • Addysg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Cefnogi Pobl
  • Barnardo’s
  • Mentrau ARCH
  • Tai
  • Cydgysylltydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Cynrychiolwyr Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref
  • Iechyd
  • Gwasanaethau Plant
  • Trwyddedu
  • Safonau Masnach
  • Dysgu Gydol Oes

Dolen(ni) Defnyddiol

Cyffuriau ac Alcohol Cymru - Pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.