Alert Section

Ymgynghori ar y Gyllideb 2025 / 2026


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Pwrpas yr ymgynghoriad

  • I amlinellu’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor wrth fantoli ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
  • I geisio barn ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i breswylwyr, ynghyd â’u safbwyntiau am strategaethau i bontio’r bwlch yn y gyllideb – nid gan Gyngor Sir y Fflint yn unig, ond gan Gynghorau eraill ledled y DU. 
  • I gefnogi aelodau wrth iddynt ystyried dewisiadau i geisio mantoli’r cyfrifon. 

Pryd oedd pobl yn cael dweud eu dweud:

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 15 Hydref 2024 a daeth i ben ar 24 Tachwedd 2024. 

Sut oedd pobl yn cael dweud eu dweud:

Gallai pobl roi eu barn drwy lenwi holiadur byr ar-lein. 

Cafodd preswylwyr nad oeddynt yn gallu gwneud yr arolwg ar-lein eu cyfeirio at un o bum Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, lle’r oedd cefnogaeth ar gael.

Nifer y bobl a gymerodd ran:

Cymerodd 3,480 o bobl ran. Ni wnaeth pawb a ddechreuodd yr arolwg fynd ymlaen i gwblhau’r holl gwestiynau.  

Cynhwysir pob ymateb a roddwyd cyn rhoi’r gorau i’r arolwg yn yr adroddiad cryno hwn. 

Yr hyn ddywedodd pobl wrthym:

Mae adroddiad cryno o’r adborth a gafwyd wedi cael ei lunio. 

Yr hyn a wnaethom gyda’ch adborth:

Bu’r adborth a gawsom yn help i wneud penderfyniadau am osod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26, a bydd yn parhau i gynorthwyo ystyriaethau sy’n arwain at osod y gyllideb ar gyfer 2026/27.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 15/10/2024

    Caewyd: 24/11/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Chyfathrebu

    E-bost: dweudeichdweud@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923