Alert Section

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig 2025


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Ar ôl i her gyfreithiol hwyr ddod i law mewn perthynas â’r cynigion sy’n ymwneud â’r Ysgolion Catholig, cafodd yr ymgynghoriad hwn ei oedi ym mis Mawrth 2026.

Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni’r amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Ers i’r broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda’r Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.

Mae manylion am yr ymgynghoriad newydd a sut i gymryd rhan ar gael yn yr adran Ymgynghoriadau Agored ar ein gwefan. 


Yn Sir y Fflint mae chwe ysgol wedi eu categoreiddio fel ysgolion Catholig gwirfoddol a gynorthwyir:

  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony, Saltney.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David, yr Wyddgrug.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair, y Fflint.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Santes Winefride, Treffynnon.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Hybarch Edward Morgan, Shotton.
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn, y Fflint.

Yn dilyn canllawiau rheoleiddio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, mae Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn dymuno ymgynghori â phawb sydd â diddordeb ynghylch cynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.

Cynigir:

  • Cau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2026.
  • Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint. 
  • Byddai’r uno’n golygu y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2026 ac ysgol unedig newydd, Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-18, Cyfrwng Saesneg, gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ym Medi 2026, yn gweithredu ar y tri o safleoedd presennol.
  • Symud yr ysgol newydd i’r adeiladau newydd o 1 Medi 2029.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 03 Mehefin 2025 ac yn cau am Hanner Nos ar 18 Gorffennaf 2025.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 03/06/2025

    Caewyd: 18/07/2025

  • Manylion cyswllt
  • Addysg ac leuenctid

    E-bost: CatholicEducationConsultation@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923