Alert Section

Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory – Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu Ddrafft


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Pwrpas yr ymgynghoriad:

Ceisio adborth ar Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu drafft y Cyngor - Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory. 

Pryd oedd pobl yn cael dweud eu dweud:

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 29 Medi 2025 a daeth i ben ar 9 Tachwedd 2025.

Sut oedd pobl yn cael dweud eu dweud:

Roedd yr ymgynghoriad ar gael ar-lein drwy wefan y Cyngor. 

I’r rhai hynny nad oeddent yn gallu cwblhau’r arolwg ar-lein roedd cefnogaeth ar gael ym mhob un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Roedd cefnogaeth hefyd ar gael drwy Wasanaeth Llyfrgell Symudol Gwella ar 30 Medi, 2, 15, 17, 22, 24 Hydref a 4 a 6 Tachwedd. 

Nifer y bobl a gymerodd ran:

Ymatebodd cyfanswm o 43 o bobl i’r holiadur.   Ni aeth pawb a ddechreuodd yr arolwg ymlaen i gwblhau’r holl gwestiynau.  Cynhwysir pob ymateb a roddwyd cyn rhoi’r gorau i’r arolwg yn yr adroddiad cryno hwn. 

Yr hyn ddywedodd pobl wrthym:

Mae adroddiad cryno o’r adborth a gafwyd wedi cael ei lunio.

Yr hyn a wnaethom gyda’ch adborth:

Cafodd yr adborth a gafwyd ei ddadansoddi a bu’n gymorth i lunio fersiwn derfynol o’r strategaeth Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 16 Rhagfyr 2025. 

 

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 29/09/2025

    Caewyd: 09/11/2025

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Chyfathrebu

    E-bost: gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 703020