Gwyrddu trefi Sir y Fflint – Bwcle
Aros canlyniadau
Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Mae Cyngor Sir y Fflint (CSyFf) yn canolbwyntio ar ddatblygu mannau gwyrdd yn ei drefi, fel ffordd o fod o fudd i’r amgylchedd a’n cymunedau.
Mae astudiaethau diweddar wedi amlygu sawl lleoliad ym Mwcle a fyddai’n elwa o welliannau gwyrdd, megis coed, planhigion, dulliau lleihau llifogydd, gwella ansawdd aer ac apêl weledol.
Gan ddefnyddio’r cyllid a ddyfarnwd ar gyfer 2025-2026 canolbwyntir ar Ffordd Brunswick i wneud gwellinnau gwyrdd yn y tref.
Bydd yr ymgynghoriad yn edrych ar gefnogaeth y cyhoedd ar gyfer gofod cyhoeddus a gwelliannau gwyrdd ym Mwcle.
Bydd ymgynghoriad ar-lein ar gael rhwng 10/10/2025 a 27/10/2025, neu fel arall, mewn digwyddiad wyneb yn wyneb gyda chynrychiolwyr o dîm Adfywio Sir y Fflint yn Llyfrgell Bwcle, ddydd Mawrth 24 Hydref rhwng 9.30am a 12.30pm
Rhoi Fy Ngolygfa