Adolygiad Cymunedol 2025
Beth yw Adolygiad Cymunedol?
Fel prif Gyngor, mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd statudol dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i fonitro’r cymunedau yn y sir, yn ogystal â threfniadau etholiadol y cymunedau hynny. Rhaid iddo hefyd gynnal ‘adolygiadau cymunedau’ pan fo’r Ddeddf yn gofyn amdanynt, neu pan mae’n ystyried ei bod yn briodol eu cynnal. Wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn, rhaid i’r Cyngor barhau i geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Mae yna ddau fath o adolygiad cymunedol y gall y Cyngor eu cynnal:
1. Adolygiad o Ffiniau Cymuned (dan Adran 25 y Ddeddf)
Adolygiad o ffiniau un neu fwy o gymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth yr ardal dan sylw, a hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae newidiadau i ffiniau cymuned yn cynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, neu ddiddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd.
2. Adolygiad o’r Trefniadau Etholiadol (dan Adran 31 y Ddeddf)
Mae hyn yn cynnwys edrych ar drefniadau etholiadol mewn cymuned benodol, sy’n golygu ystyried y sefyllfa mewn perthynas â wardiau a’r nifer o gynghorwyr. Wrth gynnal adolygiad o’r fath, gallai’r Cyngor edrych ar:
- nifer aelodau’r Cyngor ar gyfer y gymuned;
- rhaniad y gymuned yn wardiau (os yw’n briodol) er mwyn ethol Cynghorwyr;
- nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
- nifer yr aelodau i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
- enw unrhyw ward.
Dweud eich dweud
Yn rhan hanfodol o’r adolygiad yma, mae’r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos o hyd i gasglu barn ar ei Gylch Gorchwyl. Gallwch gyflwyno eich adborth ar-lein.
Adolygiad Cymunedol 2025