Alert Section

Polisi Gorfodi Cynllunio Draft 2026


Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Bolisi Gorfodi Cynllunio Drafft a gofyn am farn preswylwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, busnesau, datblygwyr a budd-ddeiliaid eraill sydd â diddordeb.

Mae Gorfodi Cynllunio yn chwarae rhan bwysig o ran cynnal hyder yn y system gynllunio, amddiffyn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, a sicrhau bod datblygiadau yn cael eu gwneud yn unol â deddfwriaeth a pholisi cynllunio.  Mae'r Polisi Drafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ymchwilio i achosion honedig o dorri rheolau cynllunio, sut y rhoddir blaenoriaeth i achosion a’r ystod o gamau y gellir eu cymryd pan ystyrir ei bod yn fanteisiol gwneud hynny. 

Sylwer mai trafod y Polisi Gorfodi Cynllunio Drafft mae'r ymgynghoriad hwn ac nid achosion gorfodi unigol. 

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried a’u defnyddio i lywio fersiwn derfynol y Polisi Gorfodi Cynllunio, fydd yn mynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo. 

Diolch i chi am eich amser yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

 

Ewch i'r Arolwg

 

 

 

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 09/02/2026

    Dyddiad cau: 09/03/2026

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Datblygu

    E-bost: PlanningDC@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923