Ymgynghoriad Gwaith Ieuenctid Sir y Fflint
Rydym eisiau clywed gan bobl ifanc Sir y Fflint
Rydym yn datblygu cynllun ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint ac rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle go iawn i ddylanwadu ar yr hyn y bydd y cynllun yn ei gynnwys a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni.
Rydym eisiau clywed eich barn am y pethau sy’n bwysig i chi, eich profiadau a’r hyn rydych chi’n meddwl ddylai fod yn flaenoriaeth. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i bobl ifanc ac yn cael ei ddefnyddio i lunio’r cynllun a nodi’r camau gweithredu y dylid eu cymryd.
P’un a oes gennych chi lawer i’w ddweud neu ddim ond ychydig o syniadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cymerwch ychydig o amser i gwblhau ein harolwg a rhannu eich barn.
Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl ifanc â phosibl, felly rhannwch yr arolwg gyda’ch ffrindiau, eich cyd-ddisgyblion, grwpiau ieuenctid, clybiau a phobl ifanc eraill yn eich rhwydweithiau.
Mae’r arolwg hwn yn gam cyntaf yn y broses o gynnwys pobl ifanc yn natblygiad y cynllun. Rydym hefyd am archwilio sut y gall pobl ifanc barhau i chwarae rhan ystyrlon yn y gwaith o lunio ac adolygu’r cynllun yn y dyfodol.
Diolch am gymryd yr amser i gymryd rhan. Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i bobl ifanc a sicrhau bod eu blaenoriaethau’n cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.
Dweud eich dweud!