Arolwg Hapus, Iach, Diogel – Gwanwyn 2026 - 11 - 25 oed (Ysgol Uwchradd a thu hwnt)
Os ydych chi'n berson ifanc rhwng 5 ac 11 oed sy'n byw yn Sir y Fflint, hoffem glywed gennych. Bydd eich barn yn helpu i wella cyfleoedd chwarae, mannau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint. Bydd yr arolwg yn helpu eich cyngor lleol i ddeall beth mae pobl ifanc angen a beth all wella yn eich cymunedau.
Mae'r arolwg Hapus Iach Diogel wedi'i ddatblygu gan Gyngor Ieuenctid Sir y Fflint a Sir y Fflint Ifanc i gasglu barn a safbwyntiau plant a phobl ifanc ar deimlo'n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn Sir y Fflint.
Rydym yn gwahodd plant a phobl ifanc 5–25 oed i gymryd rhan. Nodwch fod yna arolwg ar gyfer plant 5–11 oed (plant oedran ysgol gynradd) ac arolwg ar gyfer pobl ifanc 11–25 oed (pobl ifanc oedran ysgol uwchradd a thu hwnt). Gellir cwblhau'r arolwg hwn ar-lein neu ar bapur. I gwblhau'r arolwg ar bapur, cysylltwch â healthyschools@flintshire.gov.uk. Mae'r arolwg hwn yn ddienw.
Bydd yr arolwg yn rhedeg o ddydd Llun Mai y 25ain am 9am tan ddydd Gwener Mehefin y 19eg am 4pm.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio blaenoriaethau pobl ifanc y gall Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint a Sir y Fflint Ifanc eu cefnogi hefo yn ystod 2026–2027. Cyflwynir canfyddiadau'r arolwg yng nghyfarfod Sir y Fflint Ifanc a gynhelir ar y 24ain o Fehefin, lle bydd aelodau'n nodi'r meysydd blaenoriaeth o'r data a dderbyniwyd. Rhennir canfyddiadau'r arolwg ar-lein ar dudalen we Sir y Fflint Ifanc ar ddydd Llun y 29ain o Fehefin.
Atebwch yr arolwg yma: