Ymgynghoriad ar Bolisi Trwyddedu
Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ein Datganiad o Bolisi Trwyddedu, sy'n nodi sut rydym yn rheoleiddio ac yn trwyddedu busnesau sy'n gwerthu neu'n cyflenwi alcohol, yn darparu adloniant neu luniaeth gyda’r hwyr yn y Sir.
Mae’n rhaid i’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu gael ei adolygu bob pum mlynedd, ac mae'r adolygiad yn cynnwys proses ymgynghori statudol. Mae’r ddogfen bresennol i’w gweld yma.
Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cymerwch olwg ar y polisi drafft a'r crynodeb o'r newidiadau, ac anfonwch unrhyw ymatebion dros e-bost at: Trwyddedu@siryfflint.gov.uk cyn dydd Gwener, 18 Medi 2026.