Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Cronfa Mentrau Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 07/04/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio cronfa newydd er mwyn cynorthwyo mentrau cymdeithasol lleol. Mae Cronfa Mentrau Cymdeithasol Sir y Fflint yn rhaglen sydd wedi’i llunio’n benodol i gynorthwyo lansiad neu ddatblygiad menter gymdeithasol bresennol yn y sir. Mae grantiau unigol o hyd at £5,000 ar gael ac i gael ei hystyried ar gyfer y cyllid rhaid i fenter gymdeithasol ateb y meini prawf canlynol: · Rhaid i’r fenter fod yn Sir y Fflint ac yn weithredol yno · Rhaid iddi gael cynllun busnes dichonol · Ni ddylai fod yn ddibynnol ar asiantaethau statudol · Rhaid iddi fod yn hunanlywodraethol · Rhaid i’r sefydliad fod yn un nad yw’n dosbarthu elw · Rhaid iddi weithredu heb unrhyw gyfyngiad ar aelodaeth, rhaid iddi fod yn agored i’r gymuned gyfan. · Dylai’r sefydliad ailfuddsoddi mwyafrif ei warged yn ei bwrpas cymdeithasol · Rhaid iddi ddangos y gallu i fod yn hunangynhaliol. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau gydag incwm blynyddol o lai na £50,000; gall ymgeiswyr sydd ag incwm blynyddol uwch na hynny wneud cais ond dim ond os gallant ddarparu tystiolaeth glir i ddangos na allai’r prosiect gael ei gynnal gan unrhyw sefydliad di-elw neu fenter gymdeithasol arall y caiff y cais ei ystyried. Gellir defnyddio’r grant i gynorthwyo gweithgareddau neu wasanaethau sy’n darparu gwerth cymdeithasol ychwanegol neu sydd o fudd i bobl leol. Caiff ceisiadau eu hystyried yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn a bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i sefydliadau cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad a yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu mentrau cymdeithasol er mwyn gwella’r sylfaen busnes, datblygu sgiliau a chyfleoedd lleol a gwella gwasanaethau i bobl leol. Lansiwyd y gronfa hon yn ein Cynhadledd Menter Gymdeithasol ddiweddar yng Ngholeg Cambria a’r nod yw darparu grantiau i helpu pobl leol gyda’u mentrau ac annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.” Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702128 neu Policy.and.performance.team@flintshire.gov.uk Llun: MEC_2547 copy.jpg