Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Pobl 2014-2017

Published: 14/04/2014

Bydd yr Aelodau yn ystyried y themâu a’r blaenoriaethau allweddol arfaethedig yng nghyfnod nesaf Strategaeth Pobl y Cyngor ar gyfer 2014-17 mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth (15 Ebrill). Bydd Strategaeth newydd y Cyngor yn esbonio gweledigaeth y Cyngor i roi newidiadau a datblygiadau sefydliadol effeithiol ar waith, i foderneiddio arferion gweithio, i ddatblygu staff a gwella iechyd a lles y gweithlu, er mwyn sicrhau gwasanaethau uchel eu perfformiad, cost effeithiol a hyblyg i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well. Bydd y Strategaeth Pobl yn hybu’r sefydliad drwy ddatblygu ac ymwreiddio gwerthoedd ac arferion arweinyddiaeth er mwyn pontio rhwng strwythur presennol y Cyngor a model gweithredu newydd y Cyngor, gan bwysleisio pwysigrwydd ad-drefnu’n sefydliad, hybu newid diwylliannol, rheoli talent a sicrhau bod perfformiad a chynhyrchiant yn gwella. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Mae’r Strategaeth Pobl yn llywio’r modd y mae’r Cyngor yn trin staff a’r hyn y maent yn ei gynhyrchu. Mae hefyd yn cyfrannu at y broses o sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn ddidrafferth er budd cwsmeriaid a phobl leol. Bydd gweithlu proffesiynol, hyfedr yn cynnig gwasanaeth ardderchog, yn cyrraedd targedau gwasanaeth heriol ac yn sicrhau bod y sefydliad yn mynd o nerth i nerth.”