Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithredu Diwydiannol; Dydd Iau 10 Gorffennaf
Published: 08/07/2014
Terfir ar wasanaethau Cyngor Sir y Fflint ddydd Iau 10 Gorffennaf oherwydd
streic genedlaethol undydd gan weithwyr y sector cyhoeddus. Bydd nifer o
adeiladau a swyddfeydd y cyngor ar gau a therfir ar bob gwasanaeth, gan gynnwys
ysgolion. Bydd nifer gyfyngedig o weithwyr ar gael yn ystod oriau swyddfa
arferol (8.30am tan 5pm) yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug i ymdrin ag argyfyngau ar
01352 752121.
SIR Y FFLINT YN CYSYLLTU
Cei Connah – Ar gau
Y Fflint – Ar gau i wasanaethau’r Cyngor
Treffynnon – Ar gau
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Cysylltir â defnyddwyr unigol y gwasanaeth os terfir ar y gwasanaethau a
dderbyniant gan y Cyngor.
YSGOLION (gan gynnwys cludiant ysgol)
Bydd penaethiaid pob ysgol unigol yn rhoi gwybod i’r rhieni p’un a fydd eu
hysgolion ar agor ai peidio. Dylai’r rhieni hefyd wirio gwefan y Cyngor
(www.siryfflint.gov.uk/ysgolion) am wybodaeth gyfredol am gau ysgolion.
Bydd gwasanaethau bysiau ysgol i gerbydau dros 9 sedd yn cludo plant i’r
ysgolion cynradd ac uwchradd hynny a fydd ar agor yn ôl yr arfer ar y diwrnod.
Fodd bynnag, ni fydd tacsis a bysiau mini trwyddedig sydd â llai na 9 sedd yn
rhedeg, gan gynnwys tacsis sy’n cysylltu i brif bwyntiau casglu ar hyd y
ffordd. Bydd gofyn i rieni wneud trefniadau eraill lle bo hynny’n bosibl.
Oherwydd ansicrwydd ynglyn â darpariaeth hebryngwyr ysgol ni fyddwn yn gallu
darparu cludiant i’r rheiny sy’n arfer cael hebryngwyr.
CASGLIADAU GWASTRAFF A DEUNYDDIAU AILGYLCHU’R CARTREF
Ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff yn cael eu cynnal ar y diwrnod.
Bydd biniau du a ddylai gael eu casglu ar y diwrnod hwn yn cael eu casglu ddydd
Iau 17 Gorffennaf ynghyd â’r biniau brown, bwyd ac ailgylchu.
Ni fydd biniau brown a ddylai gael eu casglu ddydd Iau 10 Gorffennaf yn cael eu
casglu tan y casgliad arferol nesaf sef 24 Gorffennaf.
PARCIAU AILGYLCHU
Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gau. Bydd y gwasanaeth
arferol yn dychwelyd ddydd Gwener 11 Gorffennaf.
CANOLFANNAU HAMDDEN
Disgwylir i’r canolfannau canlynol fod ar agor:
Canolfan Chwaraeon Cei Connah
Pwll Nofio Cei Connah ond bydd y pwll i ddysgwyr ar gau yn ystod sesiynau nofio
cyhoeddus
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Canolfan Chwaraeon Ysgol Uwchradd y Fflint
Canolfan Hamdden Treffynnon
Canolfan Chwaraeon yr Hôb
Pafiliwn Jade Jones
Canolfan Hamdden yr Wyddgrug ond bydd yr Ystafell Ffitrwydd yn cau yn gynnar am
8pm
Canolfan Hamdden Treffynnon
Canolfan Chwaraeon yr Hôb
Canolfan Chwaraeon Saltney
Ar gau:
Canolfan Hamdden Bwcle
Argymhellir fod cwsmeriaid yn gwirio gyda chanolfannau hamdden unigol drwy
ffonio neu wirio’r wefan (www.siryfflint.gov.uk/hamdden) cyn ymweld â nhw.
PARCIAU GWLEDIG
Parc Gwepra, Cei Connah – ar agor
Dyffryn Maes Glas – Ar agor
LLYFRGELLOEDD
Bydd pob llyfrgell, ar wahân i Dreffynnon, Bwcle a Mynydd Isa, ar gau i’r
cyhoedd. Ni fydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol nac i bobl sy’n gaeth i’w tai
yn gweithredu ar y diwrnod.
SWYDDFEYDD ARIAN
Bydd pob Swyddfa Arian ar gau.
CLWYD THEATR CYMRU
Ni fydd unrhyw berfformiadau theatr na ffilm.
MARCHNADOEDD STRYD TREFFYNNON A CHEI CONNAH
Yn gweithredu yn ôl yr arfer.
Dylai aelodau o’r cyhoedd sydd â mynediad at y rhyngrwyd wirio gwefan y Cyngor
am wybodaeth gyfredol – www.siryfflint.gov.uk
Gofynwn i bobl fod yn amyneddgar yn ystod yr amhariadau ar wasanaethau o
ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol cenedlaethol hwn.