Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Melrose, Shotton

Published: 14/07/2017

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo datblygiad o fwy o gartrefi Cyngor pan fydd yn cyfarfod nesaf, yn hwyrach ymlaen yng Ngorffennaf. Bydd gofyn iddynt gymeradwyo datblygiad o naw cartref Cyngor newydd ar safler hen Ganolfan Melrose yn Shotton, syn safle y cytunwyd arno iw gynnwys o fewn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, rhaglen o’r radd flaenaf gan y Cyngor. Mae’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol eisoes wedi darparu cartrefi Cyngor newydd yng Nghei Connah a’r Fflint, gydag eraill yn cael eu hadeiladu yn yr Wyddgrug, Coed-llai a Chei Connah. Bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo benthyca darbodus o £1,191,092 i ariannur datblygiad hwn. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae ailddatblygu hen Ganolfan Adnoddau Melrose yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor. Roedd yr adeilad wedi dod yn darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi iddo gau, felly cafodd ei ddymchwel yn gynharach eleni. Rydym eisiau ail-ddatblygu’r safle drwy adeiladu 5 ty 2 ystafell wely a phedwar fflat 1 a 2 ystafell wely. “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn gwneud defnydd llawn o’r benthyciad sydd ar gael iddo, i adeiladu cymaint o gartrefi Cyngor â phosibl, a’n bod ni’n mynd ati i chwilio am gymeradwyaeth benthyca arall gan Lywodraeth Cymru, fel y gallwn wneud hyd yn oed mwy.”