Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol

Published: 14/07/2017

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu ei raglen o ddiwygio cyfundrefnau lles dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i geisio lleihau effeithiau llawn y diwygiadau hyn ar ei drigolion mwyaf diamddiffyn. Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi a pharhau i gefnogir gwaith parhaus i reoli effeithiau sydd gan a fydd gan Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar deuluoedd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint. Mae Credyd Cynhwysol wedi bod yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014. Ym mis Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth y DU Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol. Cafodd y newid hwn ei gyflwyno mewn tair o ganolfannau swyddi Sir y Fflint yn gyntaf – Shotton, yr Wyddgrug ar Fflint. Ers mis Ebrill, mae 362 o gwsmeriaid yn derbyn Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol. Maer adroddiad yn nodi sut maer Cyngor yn ceisio helpu’r cwsmeriaid hyn ac eraill fydd yn cael eu heffeithio gan y newid a’r her sylweddol hwn. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn pobl sy’n chwilio am gymorth gan y Cyngor ers cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol. “Mae canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu wedi bod yn cefnogi ein trigolion a chynnig cyngor a chymorth iddyn nhw ar reoli eu hawliadau ar-lein. Rydym yn cefnogi’r sawl mewn perygl o golli incwm, y sawl sy’n cael problemau talu eu rhent a’r sawl â risg cynyddol o ddigartrefedd, i leihau effaith y diwygiadau lles hyn ar ein trigolion mwyaf diamddiffyn.” Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rydym hefyd yn monitro sut mae effaith Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol wedi cyfrannu at gynnydd yn lefel ôl-ddyledion rhent. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau i gynorthwyo ein cwsmeriaid i leihau effeithiau Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol.”