Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad gan y Cabinet - Casglu Gwastraff a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

Published: 18/07/2017

Pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo newidiadau i’r polisi gweithrediadau casglu gwastraff cartref a chanolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y newidiadau i’w gasgliadau gwastraff ochr y ffordd ac ailgylchu, sydd i’w gweithredu ym mis Medi. Mae hefyd yn rhoi diweddariad ar raglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor. Mae’r Cyngor yn parhau i berfformio’n dda o ran cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru gyda’i berfformiad diweddaraf o 68% yn 2016/17. Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd y targed nesaf o ailgylchu 70% erbyn 2025, cynigir y newidiadau canlynol o ran rheoli a gweithredu safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Sir. Yn dilyn cwblhau rhaglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, estyn y cynllun trwyddedau er mwyn i bob fan â thrwydded ddefnyddio pob safle, bydd rheolau llymach ar faint yn ogystal â dim ond caniatáu trelars un echel. Bydd amseroedd agor newydd i adlewyrchu’r adegau prysuraf, sef rhwng 9 am a 5 pm yn y gaeaf a rhwng 10 am a 6 pm yn yr haf. Bydd adolygiad o sut caiff y safleoedd eu rheoli yn y dyfodol gan edrych ar ddefnyddio partner busnes i helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan gysylltu gyda menter gymdeithasol neu sefydliad elusennol o bosibl. Caiff y safleoedd eu hailfrandio fel Canolfannau Ailgylchu yn hytrach na ‘Safleoedd Sgipiau’. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Roeddem yn falch o gael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau modern, haws i’w defnyddio ond roedd hyn ar y sail ein bod yn cynyddu ein cyfraddau ailgylchu ar bob safle. Bydd gweithredwyr wrth law i helpu preswylwyr i fynd trwy eitemau a brynwyd fel eu bod yn cael gwared arnynt yn y cynwysyddion iawn. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rowndiau casglu gwastraff newydd ar sail y cynnydd tai a ragwelir dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn golygu, ar gyfer nifer fach o breswylwyr (tua 500), y bydd angen newid eu diwrnod casglu. Aeth y Cynghorydd Thomas ymlaen: “Rydym hefyd yn cyflwyno cerbydau ailgylchu newydd a fydd yn caniatáu i ni gasglu amrywiaeth ehangach o blastigau a batris ar ochr y ffordd, gan ei gwneud yn haws i breswylwyr ailgylchu mwy. Oherwydd bydd mwy o gyfle i ailgylchu, rydym yn rhagweld y bydd y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu a roddir mewn biniau du yn lleihau, byddwn yn parhau i gymryd dull cadarn gyda phreswylwyr sy’n parhau i gyflwyno gwastraff ychwanegol mewn bagiau gyda’u bin olwynion a chymryd camau gorfodi lle bo angen. “Rwyf wedi bod yn cyfarfod gyda’r gweithlu fel yr Aelod Cabinet newydd ac rwy’n gwerthfawrogi pa mor galed maen nhw’n gweithio, gan gerdded hyd at 12 milltir, mewn tywydd anodd yn aml. Gofynnwyd iddynt roi’r cynwysyddion yn ôl lle maen nhw’n dod o hyd iddynt a pheidio gadael sbwriel, ond rhaid i ni weithio mewn partneriaeth ac os yw gwastraff yn cael ei roi allan yn rhy gynnar neu heb ei ddiogelu, gall gael ei chwythu o gwmpas a gall bagiau plastig gael eu rhwygo ar agor gan fermin. Ar ddiwrnodau poeth, gall y biniau gwastraff bwyd fod yn drewi os na chânt eu golchi. “Gwyliwch am y taflenni drwy eich drws sy’n nodi beth gellir ei ailgylchu nawr a’r calendrau newydd a fydd yn cynnwys dyddiadau casglu dros gyfnod y Nadolig felly gwnewch yn siwr eich bod yn cadw’r rhain yn rhywle diogel. Bydd staff o’r gwasanaeth Strydwedd yn ymweld ag eiddo sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i ddiwrnodau eu casgliadau gwastraff i egluro’r broses a’r dyddiadau ar gyfer y newid.”