Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Maes Parcio

Published: 14/07/2017

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo cyfres o gynigion yn ymwneud â strategaeth parcio ceir y Cyngor. Mae’r cynigion yn ymwneud â thair tref: Y Fflint, Bwcle a Threffynnon, ac fe geisir cymeradwyaeth fel a ganlyn: 1. Cyflwyniad graddol i weithredu Strategaeth Maes Parcior Fflint - ni chyflwynwyd taliadau parcio yn y Fflint yn ystod y gwaith ailddatblygu cychwynnol yn y dref, a bellach mae cynllun i gyflwyno taliadau yn y dref yn raddol, wrth ir gwaith datblygu ddod i ben. Yn ogystal, bydd cynigion ar gyfer cyfyngiadau parcio ar y stryd ychwanegol, a chynlluniau i symud llwybr beicio Church Street i stryd gyfagos i ganiatáu mwy o barcio arhosiad byr ar y stryd, sydd am ddim, yn destun proses ymgynghori anffurfiol. 2. Cais i Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon gynnal ymgynghoriad anffurfiol i sefydlu eu safbwynt ar adolygiad ffurfiol o barthau cerddwyr sydd yn eu lle ar hyn o bryd yng nghanol trefi’r ddau le. Er bod yr ardaloedd hyn yn rhoi profiad siopa diogel a dirwystr, caiff ei awgrymu eu bod yn gallu cael effaith negyddol ar fusnesau ar y strydoedd hynny, oherwydd ni all siopwyr ymweld yn sydyn a chasglu eitemau. 3. Cynnwys maes parcio Stryd y Ffynnon yn strategaeth maes parcio Treffynnon – i ychwanegu 50 man parcio ychwanegol yn y dref. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Cyflwynwyd strategaeth maes parcio’r Cyngor i wella bywiogrwydd a bwrlwm canol trefi, drwy reoli meysydd parcion effeithiol, ac rydym yn cynnig rhai newidiadau ac ychwanegiadau ir strategaeth hon. Byddwn yn ymgynghori ar yr holl gynigion gydag aelodau Cyngor lleol, Cynghorau Tref, preswylwyr a busnesau cyn y gwneir unrhyw newidiadau.”