Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Oes newydd Aura

Published: 18/07/2017

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, daeth Cyngor Sir y Fflint ac Aura Leisure and Libraries Ltd (Aura) i gytundeb ar bob mater ariannol. Golyga hyn y bydd Aura, cwmni elusennol sy’n berchen i’r gweithwyr, yn dechrau rheoli gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a threftadaeth yn y sir o 1 Medi 2017. Gwnaethant hefyd gyhoeddi buddsoddiad o fwy na £3m mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn Sir y Fflint. Bydd gwaith gwella ar bob prif ganolfan hamdden yn cael ei wneud a bydd yn cynnwys gwaith i offer a pheiriannau hanfodol, ac adeiladwaith yr adeilad. Bydd buddsoddiad yn y caeau bob tywydd yn Ysgol Alun yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Penarlâg a dau o’r chwe chae 3G yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn arwain at ddisodli ac uwchraddio pob un. Mae cynlluniau ar gyfer cyfleusterau iechyd a ffitrwydd newydd yn cael eu datblygu ar gyfer Canolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones, gan gynnwys ystafelloedd newid newydd yn y pwll nofio yn y Fflint. Bydd hyn yn gwella’r profiad i gwsmeriaid presennol yn fawr ac yn denu cwsmeriaid newydd i’r ddwy ganolfan. Hwn yw cam cyntaf datblygiadau newydd ac mae datblygiadau diweddarach yn cael eu hystyried ar gyfer trefi eraill. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae’n wych gweld dechrau’r cwmni newydd hwn sy’n berchen i weithwyr presennol y Cyngor. Byddwn yn cydweithredu gydag Aura sy’n golygu, yn hytrach na gorfod ystyried dyfodol rhai o’n canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, rydym yn diogelu swyddi ar y cyd a buddsoddi yn ein canolfannau hamdden i’w gwneud yn well i’n preswylwyr.” Meddai Christine Edwards, Cadeirydd Aura Leisure and Libraries: “Mae hon yn garreg filltir enfawr i Aura Leisure and Libraries. Mae’r Bwrdd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda gweithwyr i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu gwella a bod cwsmeriaid yn gweld budd go iawn. Mae cyhoeddiad dau gyfleuster iechyd a ffitrwydd newydd mae’r cwmni yn buddsoddi ynddynt yn dangos ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth sylweddol i breswylwyr Sir y Fflint.” Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: “Y gwaith hwn, ynghyd â Throsglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon a Phwll Nofio Cei Connah, yw’r rheswm pam ein bod yn gallu dweud yn falch bod Cyngor Sir y Fflint wedi cadw ei holl ganolfannau hamdden wrth orfod gwneud lleihad o 30% yn y gyllideb flynyddol ar gyfer y gwasanaethau hyn, ynghyd â chyhoeddi buddsoddi cyfalaf mawr – mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol.”