Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr

Published: 24/07/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gydag Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr i godi arian er cof am gyn gydweithiwr. Gyda thristwch bu farw Helen Stappleton, Prif Swyddog Pobl ac Adnoddau fis Medi y llynedd. Cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug ar 18 Gorffennaf, diwrnod pen blwydd Helen. Roedd Peter, sef gwr Helen a’i mab James yno hefyd yn helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth. Gwerthodd y grwp fathodynnau’r elusen, ffresnyddion aer, beiros ac eitemau eraill yn ogystal â darparu llyfrynnau gwybodaeth am yr elusen. Dywedodd Sharon Knott, Cadeirydd Pwyllgor yr Wyddgrug o Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr a threfnydd y digwyddiad: “Mae Pwyllgor yr Wyddgrug yn grwp o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed i drefnu amrywiol ddigwyddiadau trwy’r flwyddyn fel nosweithiau ras, dawns yr haf, teithiau noddedig a digwyddiadau rhedeg, boreau coffi a chinio. Rydym yn ffodus iawn i gael nifer o bobl sy’n ein cefnogi yn ystod y flwyddyn gyda’u digwyddiadau codi arian eu hunain er budd Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr trwy gynnal barbeciws neu de prynhawn neu roi rhoddion yn hytrach nag anrhegion pen blwydd. Gyda’u cefnogaeth nhw, y llynedd codwyd dros £32,000 i helpu’r ymchwil hanfodol i achosion a thriniaeth canser yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Os hoffai unrhyw un gyfrannu neu os ydynt angen cefnogaeth gyda’u digywddiadau codi arian eu hunain yna gofynnwch iddynt gysylltu â mi shazknott@yahoo.co.uk.” Ym mis Mehefin eleni, bu rhai o ffrindiau a chydweithwyr Helen yn cymryd rhan mewn taith gerdded canol nos yn Wrecsam a chodwyd £2,200 i Dyr Eos wnaeth ddarparu gofal gwych i Helen a’i theulu. Talodd y grwp deyrnged i Helen: “Roedd pob un ohonom wedi gweithio gyda ac i Helen am lawer o flynyddoedd. Gwnaethom ddewis yr enw Hel’s Belles i’n tîm gan fod Helen yn brydferth ym mhob ffordd. Mae gan gymaint ohonom atgofion oes amdani ac ni wnawn byth ei anghofio. Mae’n parhau gyda ni bob dydd nid yn unig yn ein bywyd gwaith, ond hefyd yn ein bywyd personol, gan ein bod ac rydym yn dîm o ffrindiau da.