Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn dathlu ennill gwobrau cenedlaethol
  		Published: 24/07/2017
Bu Cyngor Sir y Fflint yn enillydd llwyddiannus iawn yng Seremoni Wobrwyo 
Adeiladu Arbenigrwydd Cymru (AAC), a gynhaliwyd yn y Celtic Manor ddydd Gwener 
14 Gorffennaf.
Yn y seremoni, a gyflwynwyd gan Jason Mohammad, dyrannwyd gwobr “Cleient y 
Flwyddyn ir Cyngor ar ôl cael ei enwebu gan ei gontractwr, Wates Residential, 
yn ogystal ag un arall o’i gontractwyr, Galliford Try, gan dderbyn “Gwobr 
Gynaliadwyedd” am Gampws Dysgu blaenllaw Treffynnon.
Mae Gwobrau AAC yn fesurydd ar gyfer llwyddiant diwydiant adeiladu Cymru.  Ers 
dechraur Gwobrau yn 2006, mae prosiectau a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan 
wedi darparu buddion ir gymuned, o gymorth i dros 300 o elusennau, i 1,500 o 
leoedd mewn ysgolion a chydlynu tua 10,000 o oriau o waith gwirfoddol.
Enwebwyd y Cyngor gan Wates Residential am eu gwaith partneriaeth ar y Rhaglen 
Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).  O’r cychwyn, bu’r ddau’n gweithio gyda’i 
gilydd i sicrhau bod dull o weithio ar y cyd ym mhob agwedd o ddylunio a 
chynllunior cynllun, gan hefyd weithio i ymgysylltu âr gymuned a darparu 
nifer o fanteision cymunedol i drigolion lleol.  Roedd grwpiau gwaith 
prosiectaun sicrhau bod dull o weithio’n agos, mewn tîm ar gyfer yr holl 
weithgarwch adeiladu, masnachol ac ymgysylltu âr gymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Y rhaglen SHARP yw’r gyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n gosod meincnod 
cenedlaethol ar gyfer safon a dylunio.  Rydym yn falch iawn o ennill y wobr 
fawreddog yma, a bod ein rhaglen dain cael ei hamlygu fel hyn.  Mae nifer o 
awdurdodau lleol eraill wedi ymweld â ni er mwyn gweld y cynnydd sy’n cael ei 
wneud ac maen nhw bellach am ddefnyddio’r model arloesol hwn yn eu hardaloedd 
eu hunain.  Diolch i bawb yn Wates am ein henwebu ni.  Mae Wates wedi bod yn 
bartner arbennig ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda nhw i ddarparu tai o 
safon i drigolion Sir y Fflint.”
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential: 
“Hoffai pawb yn Wates Residential longyfarch y Cyngor am ennill y wobr hon, 
sy’n gydnabyddiaeth haeddiannol o’r gwaith adfywio pwysig mae’n ei wneud ar 
draws Sir y Fflint. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda’r Cyngor ar y 
rhaglen SHARP, a fydd yn allweddol wrth fynd ir afael âr diffyg tai sydd yn y 
sir.
“Mae’r buddsoddiadau sylweddol sy’n rhan o’n gwaith ar y cyd hefyd yn 
galluogi’r ddau sefydliad i greu nifer o gyfleoedd am waith a hyfforddiant 
lleol ac, wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, fe fyddwn ni’n parhau i ddod o 
hyd i ffyrdd y gallwn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau Sir y Fflint.
Galliford Try oedd y contractwr a ddarparodd y Campws Dysgu modern yn 
Nhreffynnon.  
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
“Or cychwyn, roedd Galliford Try’n sicrhau bod cynaliadwyedd yn greiddiol ym 
mhob agwedd or prosiect.  Roedd llawer iawn o wastraff ar ôl dymchwel yr hen 
ysgol uwchradd ond fe ailddefnyddiwyd y gyfran anhygoel o 90% o’r gwastraff 
dymchwel ar y safle.  Ar ben hynny, cafwyd 55 o gyfleoedd am waith a 19 o 
brentisiaethau yn sgil y prosiect, yn ogystal â nifer o weithgareddau 
addysgiadol a chymunedol.
Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try yng Ngogledd-orllewin 
Lloegr: 
“Mae Campws Dysgu Treffynnon bellach yn brosiect enghreifftiol, nid yn unig yn 
rhanbarthol, ond yn genedlaethol hefyd. Mae’r tîm wedi bod yn anhygoel wrth 
gyflawni mwy na’r targedau a osodwyd ar eu cyfer nhw, ac mae’r gydnabyddiaeth 
wobrwyol maen nhw wedii derbyn gan Adeiladu Arbenigrwydd yn haeddiannol iawn.”
Bydd y ddwy wobr yn mynd ymlaen i Wobraur DU yn nes ymlaen eleni.