Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd

Published: 26/07/2017

Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gwasanaeth dydd Sul Dinesig yn agos at ddechrau blwyddyn newydd y Cyngor, syn dechrau ym mis Mai. Cadeirydd newydd y Cyngor sy’n dewis yr Eglwys. Mae Cadeirydd y Cyngor yn dewis aelod o’r clerigwyr i weithredu fel ‘Caplan y Cadeirydd’ yn ystod eu blwyddyn mewn swydd. Eleni, y Caplan yw’r Parchedig Kevin Horswell a chynhaliwyd y Gwasanaeth Ddinesig yn Eglwys Santes Fair yn yr Wyddgrug dydd Sul, 23 Gorffennaf. Mynychodd yr Uchel Siryf, Mrs Howard, a’i gwr, Dirprwy Raglaw, David Catherall a’i wraig, yr Arglwydd ar Fonesig Jones, yn ogystal ag aelodau’r cyngor a’r gymuned leol. Ar ôl y gwasanaeth, darparodd Cadeirydd y Cyngor ai gymar lluniaeth i’w gwesteion yn yr eglwys. Or chwith ir dde: Y Cyng. Chris Bithell, Parchedig Kevin Horswell, Colin Everett – Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Cymar y Cadeirydd Mrs Jean Lloyd, Cynghorydd Gadeirydd Brian Lloyd, Y Gwir Anrh. Arglwydd Jones a’r Fonesig Jones.