Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Criw Celf Gogledd Cymru – Galwad Agored am Artistiaid

Published: 07/08/2017

Galwad agored am artistiaid i weithio gyda Chriw Celf Gogledd Cymru Sefydlwyd Criw Celf Gogledd Cymru yng Ngwynedd yn 2007 ac mae wedi bod yn bartneriaeth rhwng Cyngor Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers 2012. Dyma’r prosiect celf weledol cyntaf ar gyfer gogledd Cymru gyfan sy’n targedu artistiaid ifanc mwy galluog a thalentog. Bydd cyfres o chwe gweithdy’n cael eu cynnig i bob cyfranogwr gan weithio mewn safleoedd ysbrydoledig ledled y rhanbarth. Rydym yn chwilio am artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol proffesiynol a hynod brofiadol i redeg gweithdai gan edrych ar amrywiaeth o dechnegau artistig ac yn gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau. Bydd gan bob sir 3 grwp Criw Celf sef blwyddyn 5 a 6, blwyddyn 7 ac 8 a blwyddyn 9 a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu dewis drwy broses ymgeisio. Rydym hefyd yn chwilio am artistiaid i redeg gweithdai fel rhan o’r Portffolio, ar gyfer Myfyrwyr TGAU, a rhaglen Codir Bar, ar gyfer myfyrwyr AS a Lefel A. Mae Criw Celf Gogledd Cymru yn gwahodd artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol i anfon llythyr yn mynegi diddordeb trwy e-bost ar gyfer ein rhaglen 2017/18. Dylech gynnwys cynnig ar gyfer dosbarth meistr a pha ddeunyddiau a thechnegau a ddefnyddir. Dylech hefyd nodi pa siroedd yng ngogledd Cymru yr ydych yn gwneud cais i weithio ynddynt. Y ffi ddyddiol yw £250 gan gynnwys deunyddiau, teithio a chynhaliaeth. Y dyddiad cau ar gyfer afnon llythyr yn mynegi diddordeb a CV gyfredol yw 31 Awst 2017. Ariennir Criw Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a phob un o’r chwech Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru. Anfonwch eich ceisiadau wedi’u cwblhau dros e-bost at gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk