Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017

Published: 14/08/2017

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni ddydd Gwener 15 Medi ym Mharc Gwepra, Cei Connah. Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy ywr digwyddiad cadwraeth a chymunedol mwyaf mwy na thebyg yng ngogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Eleni bydd y digwyddiad ar thema coed ac yn ymestyn i Sir Amwythig, Wrecsam a Sir Ddinbych, gydar siroedd hyn yn ymuno â Sir y Fflint, Sir Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru fel rhanddeiliaid allweddol, syn gweithio gydai gilydd i lanhau’r Ddyfrdwy bob blwyddyn, a’i dalgylch. Bydd pawb syn cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol, yn ogystal â phlannu coed, ac yn paentio a thaclusor lleoedd arbennig ar hyd ei glannau, ei harfordir, a’r dalgylch, o fynyddoedd Cymru i gynefin arfordirol aber afon Dyfrdwy, i ffin Sir Amwythig. Y llynedd, bu cannoedd o bobl yn cymryd rhan a chasglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel. Yn Sir y Fflint, mae’r ymdrechion yn cael eu cydlynu gan Geidwaid Cefn Gwlad y Cyngor, sy’n cymryd y cyfle i weithio gyda busnesau lleol, a grwpiau cadwraeth a chymunedol, i blannu coed a bylbiau, clirio sbwriel a phaentio meinciau. Cefnogir y digwyddiad gan lawer o grwpiau cymunedol a nifer o fusnesau, gan gynnwys Tesco, Airbus, Kingspan, ENI, a llawer mwy. Eleni bydd gan Tesco dros 100 o aelodau staff yn gwirfoddoli eu gwasanaethau ar gyfer y gwaith o lanhau, gan weithio mewn 7 safle ar draws y rhanbarth. Gan wneud effaith sylweddol ar sbwriel arfordirol a’r aber, maer digwyddiad wedi cael gwared ar dunelli o sbwriel o arfordir a chymunedau arfordirol Sir y Fflint. Mae hefyd wedi cychwyn adfywiad arfordirol gan weithion agos gyda llwybr Arfordir Cymru. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto’n falch iawn o gynnal lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy. Maer digwyddiad wedi mynd yn fwy bob blwyddyn ers iddo gael ei sefydlu yn gyntaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn 2007 gyda mwy a mwy o bobl, grwpiau cymunedol a busnesau yn cymryd rhan bob blwyddyn, ac erbyn hyn dymar digwyddiad glanhau ebyr ac afonydd trawsffiniol annibynnol mwyaf y DU, fwy na thebyg. “Maen wirioneddol wych gweld cynifer sydd am helpu i ofalu am ein hamgylchedd lleol a’i ddiogelu. Maer gwirfoddolwyr cymunedol a busnes yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn lân i ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae miloedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan gannoedd o wirfoddolwyr dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed! Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson: “Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy dros y deng mlynedd diwethaf a’i wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad trawsffiniol pwysig syn cwmpasu milltiroedd o’r arfordir o Dalacre i Gaer a Llangollen, a bellach yn cynnwys gogledd Sir Amwythig. Mae gwir ymdeimlad o falchder cymunedol, gyda gwirfoddolwyr nid yn unig yn gweithio i lanhaur afon, ond hefyd yn plannu coed a bylbiau a phaentio i wellar amgylchedd ar hyd y glannau.” Er bod sawl digwyddiad wedi’u cynllunio’n barod, mae amser o hyd i gynnwys eich grwp, busnes neu sefydliadau yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. Cysylltwch â’r Ceidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01352 703900 am ragor o wybodaeth. Nodyn i olygyddion Bydd lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni, wedi’i noddi gan McDonalds, yn digwydd ym Mharc Gwepra, Cei Connah, dydd Gwener 15 Medi. Mae croeso i chi anfon cynrychiolydd i fod yn bresennol o 9.30am.