Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwilio am fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint 2017

Published: 18/08/2017

Rydym yn dechrau chwilio am fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint yn dilyn lansiad Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2017 yn Soughton Hall yn ddiweddar. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: Rydym yn falch iawn bod AGS Security Systems yn dychwelyd fel ein prif noddwyr ac rydym yn falch o groesawu noddwyr newydd ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn – gan gynnwys K K Fine Foods, Kingspan Insulated Panels, P & A Group of Companies and Westbridge Furniture Designs. Gall pob sefydliad sydd wediu lleoli yn Sir y Fflint - gan gynnwys eich sefydliad chi! - gofrestru, felly be am gyflwyno eich cais a dod i fwynhau noson hyfryd gyda phobl busnes eraill ar 20 Hydref. Mae gan fusnesau ar draws Sir y Fflint y cyfle i ddisgleirio yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint eleni. O lwyddiant ariannol i ymrwymiad cwmni iw tîm, mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn gwobrwyo a chydnabod rhagoriaeth mewn busnes ar draws y Sir. Dywedodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, AGS Security Systems: Rydym wedi bod yn gysylltiedig âr digwyddiad ers wyth mlynedd, ac yn brif noddwr ers chwe blynedd. Rwyf wrth fy modd yn ymgysylltu, ac yn mwynhaur ysbryd cymunedol sydd gan fusnesau Sir y Fflint. Boed i Sir y Fflint mewn Busnes, Gwobrau Busnes Sir y Fflint, an cysylltiad â nhw, barhau. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn wobrau ar gyfer busnesau yn Sir y Fflint yn unig, boed y busnesau yn fach neun fawr, ac maent yn darparu cyfle i ddathlu llwyddiannau cymuned fusnes y Sir. Cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog eleni ddydd Gwener 20 Hydref yn Soughton Hall, Llaneurgain, a bydd yn darparu cyfle i fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint ddisgleirio. Gall ennill Gwobr Busnes Sir y Fflint hybu proffil cwmni, sefydlu enw da, ac maen wych ar gyfer morâl y staff. Byddwn yn annog busnesau i gyflwyno eu henwebiadau. Rydym yn falch o gyhoeddir noddwyr newydd a chategorïau’r gwobrau ar gyfer 2017. Y categorïau ar gyfer 2017 yw: Gwobr Prentisiaeth a noddir gan Cambria for Business Gwobr Unigolyn Busnes y Flwyddyn a noddir gan Westbridge Furniture Designs Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr a noddir gan K K Fine Foods Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr, a noddir gan Edge Transport Gwobr Busnes Gorau i weithio iddo a noddir gan P & A Group of Companies Gwobr Entrepreneur, a noddir gan Pochin Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol, a noddir gan Wates Residential Gwobr Technoleg, Arloesi a Menter a noddir gan Kingspan Insulated Panels Gellir canfod manylion llawn y categorïau ar meini prawf ar wefan Sir y Fflint mewn Busnes http://flintshirebusinessweek.co.uk/?lang=cy neu trwy gysylltu â Kate Catherall 01352 703221, kate.p.catherall@Flintshire.gov.uk Rhaid i ffurflenni cais wediu llenwi a deunydd ategol ddod i law erbyn y dyddiad cau 29 Medi