Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Gostyngiad Person Sengl

Published: 17/08/2017

Bydd y rheiny syn talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod yn byw ar eu pen eu hunain yn cael eu gwirio cyn bo hir i wneud yn siwr bod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2014. Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth blaenllaw sy’n arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn gweithio gyda’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad i hawlwyr didwyll ac yn nodi’r rheiny syn hawlio gostyngiad Treth y Cyngor ond heb hawl i wneud hynny. Os bydd hawliadau anghywir yn cael eu canfod, bydd y Cyngor yn dod â’r gostyngiad i ben ac yn ceisio adennill yr arian o’r dyddiad priodol. Ar hyn o bryd mae dros 21,600 o drigolion (bron i un o bob tri chartref) yn hawlio gostyngiad person sengl. Er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlior gostyngiad yn gywir, mae’n bosibl y bydd achosion lle nad ywr Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol. Anogir unrhyw drethdalwyr sy’n derbyn gostyngiad ac syn teimlo nad yw’n gywir i gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 cyn i’r adolygiad llawn ddechrau ddiwedd mis Awst.