Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartref chwedlau

Published: 15/08/2017

Mae Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn paratoi ar gyfer Sioe Amaethyddol flynyddol Sir Ddinbych a Fflint a gynhelir ddydd Iau, 17 Awst, pan fyddant yn uno mewn pabell i gynnal arddangosfa ac eleni maent yn dathlu ‘Blwyddyn y Chwedlau’. Dewch i ganfod mwy am sut i fod yn ‘chwedl gwirfoddoli’ a helpu Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint a Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wneud gwaith ardderchog yng nghefn gwlad ac ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Gallwch hefyd ddysgu am gymeriadau chwedlonol Cymreig, adrodd chwedlau a chreu celf a chrefft chwedlonol. Bydd digonedd o weithgareddau ar gael i’r teulu cyfan, gan gynnwys Hemlock y ddraig a fydd gyda ni ar y diwrnod ac ar gael i dynnu hunluniau hefyd. Felly dewch draw i weld yr holl anturiaethau chwedlonol sydd ar gael yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd ein pabell ger y prif gylch a byddwn yn edrych ymlaen at eich gweld yno. Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o allu arddangos ein gwaith i ymwelwyr unwaith eto eleni. “Bydd y ddau gyngor yn tynnu sylw at yr hanes gwych, y profiadau ar cyrchfannau sydd ar gael yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint ac yn annog pobl i archwilior gornel ryfeddol hon o Gymru a mynd ar anturiaethau yno. “Rydym yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gennym i’w gynnig.” Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rwy’n hynod falch ein bod wedi ymuno â Chyngor Sir Ddinbych am wyth mlynedd i ddangos cyrchfannau mor wych sydd gan y ddwy sir iw cynnig. “Mae Sioe Sir Ddinbych a Fflint yn un hanesyddol ac yn un o’r digwyddiadau pwysicaf a mwyaf poblogaidd yn y calendr amaethyddol ac mae pobl yn heidio iddi o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt. Mae’n llwyfan gwych i ni hyrwyddo ein cynghorau ac rydym yn hynod falch o gefnogi trefnwyr y sioe unwaith eto eleni. Am fanylion pellach am Sioe Sir Ddinbych a Fflint, edrychwch ar eu gwefan: http://www.denbighandflintshow.com