Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Teithio Llesol

Published: 31/08/2017

Mae yna lai na 4 wythnos ar ôl i chi ddweud eich dweud ar Fap Rhwydwaith Integredig Drafft Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 24 Medi 2017 a bydd y Map Rhwydwaith Integredig yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo ddechrau mis Tachwedd 2017. Mae’r mapiau a’r atodlenni ar gael ar lein yn: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel-Integrated-Ne twork-Map-Consultation.aspx. Neu, fel arall, gallwch alw draw i’n sesiwn gyhoeddus olaf ym Mhafiliwn y Fflint ar 5 Medi 2017 rhwng 2pm a 7pm. Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: “Dyma’ch cyfle chi i helpu i lunio ein cynigion ar gyfer gwella ein seilwaith cerdded a beicio. Bydd y Map Rhwydwaith Integredig yn dangos ein dyheadau ar gyfer cyflwyno gwelliannau Teithio Llesol yn y sir yn ystod y 15 mlynedd nesaf.”