Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


B5101 Ffrith

Published: 04/09/2017

Gweler isod ddiweddariad ynglyn â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y B5101, Ffrith, ar hyn o bryd yn dilyn ein diweddariad blaenorol ar 7 Awst: Dechreuodd gwaith i gael gwared â choed ac isdyfiant ddydd Llun 21 Awst. Fe gymerodd o gwaith fwy o amser na’r disgwyl oherwydd bod cymaint o goed wedi disgyn ac oherwydd yr amodau gwaith ansicr. Fe gwblhawyd y rhan fwyaf o’r gwaith clirio ar 31 Awst pan nad oedd ond ychydig o bren ar ôl iw symud or safle. Mae disgwyl i waith cloddio i gael gwared â’r deunydd sydd wedi llithro ddechrau ddydd Mawrth 5 Medi. Rhagwelir y bydd y cymal hwn or gwaith yn cymryd 3 wythnos, ond bydd yn dibynnu ar faint o ddeunydd y mae angen cael gwared ag o er mwyn sefydlogir llethr unwaith eto. Pan fydd hynny wedi’i wneud, bydd gwaith i drwsio’r ffordd yn cychwyn, a ddylai gymryd 2-3 wythnos arall. Rydym yn diolch i chi eto am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn a gallwch fod yn sicr ein bod yn gweithio’n galed i ailagor y ffordd yn sydyn ac yn ddiogel.