Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017 yn nesáu

Published: 12/09/2017

Bydd cannoedd o wirfoddolwyr ar lannau Afon Dyfrdwy a’r ardaloedd cyfagos dros yr wythnos nesaf ar gyfer digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy. Mae’r digwyddiad, gaiff ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint gyda staff o gynghorau cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dychwelyd am yr 11eg flwyddyn ac maen argoeli i fod yn fwy a gwell nac erioed. Bydd gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol, grwpiau cadwraeth a busnesau o bob rhan o Ogledd Cymru a Swydd Gaer yn torchi eu llewys i glirior afon a sbwriel y môr yn ogystal â thaclusor ardaloedd ar hyd ei glannau a’r eithin. Mae tua 40 o sefydliadau yn rhan o’r glanhau gan gynnwys Cadw Cymru’n Daclus, Coleg Cambria, Ysgol Gwynedd, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Friends of Bagillt foreshore, Sustrans, ENI, Kingspan, Grwp Sgowtiaid Treffynnon, Cyfeillion Parc Gwepra, McDonald’s, Tesco, Toyota ac Airbus. Dyma rai or gweithgareddau syn digwydd: · Bydd Ysgol Gwynedd, ENI a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn casglu sbwriel yn Nhraeth Talacre ar 15 Medi. · Bydd Sgowtiaid Treffynnon yn casglu sbwriel a thacluso yn Nyffryn Maes Glas a Doc Maes Glas ar 16 Medi; · Bydd staff o Tesco a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn clirio a phlannu eithin yn Noc Maes Glas ar 19 Medi; · Bydd Toyota yn gwneud eu rhan ar flaendraeth Sir y Fflint ar 20 Medi; · Bydd gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn casglu sbwriel o amgylch Llanerch y Môr (cwch hwyl) ar 21 Medi. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Maen wirioneddol wych gweld cynifer yn awyddus i gymryd rhan a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd lleol. Maer gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn lân i ymwelwyr a bywyd gwyllt. Hoffwn ddiolch i bawb a fydd yn cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017. Mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.” Bydd Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn cychwyn gyda lansiad, wedi ei noddi gan McDonald’s, ym Mharc Gwepra rhwng 9.30 a 12.30pm dydd Gwener 15 Medi.