Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galw am hen luniau ysgol!

Published: 25/09/2017

Mae Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn apelio am hen luniau ysgol. Mae’r Swyddfa Gofnodion yn cynnal Diwrnod Edrych yn ôl ar Ddyddiau Ysgol, ddydd Iau 5 Hydref, i annog pobl i ddod â’u lluniau ysgol. Os nad ydych am eu rhoi i ni, dewch â nhw i mewn a gallwn eu sganio a’u dychwelyd atoch. Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington: “Mae gennym gannoedd o luniau ysgol yn yr archif ond mae bylchau o hyd, yn enwedig yn ardal Glannau Dyfrdwy. Rydym yn croesawu lluniau o unrhyw ardal oherwydd y mwyaf fydd gennym, gorau fydd y cofnod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Os oes gennych luniau dosbarth mewn drôr neu yn yr atig, dewch â nhw i mewn. Does ots a ydynt yn 100 oed neu’n 1 oed, mae angen cofnod cynhwysfawr arnom ni.” Cynhelir y Diwrnod Edrych yn ôl ar Ddyddiau Ysgol ddydd Iau 5 Hydref 2017 rhwng 2pm a 4.30pm yn yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarlâg (i lawr y lôn wrth ochr Swyddfa’r Post), CH5 3NR. Ar y diwrnod, bydd arddangosfa o hen luniau ysgol ac arddangosfeydd o lyfrau cofnodion ysgol, sy’n cynnig hanes diddorol iawn o wedd newidiol addysg, adeg pan oedd adroddiad yr Arolygydd Ysgol yn ddim ond paragraff o hyd; pan fyddai plant yn talu am y glo ac yn absennol i gasglu’r cynhaeaf; pan oedd clefyd yn gyffredin a gwyliau cenedlaethol yn cael eu dathlu. Bydd te, coffi a chacen am ddim, a bydd cwis yn seiliedig ar arholiad 11 plus yr 1950au lle caiff yr enillydd awr o ymchwil am ddim gan aelod o staff yn y Swyddfa Gofnodion. Felly, dewch â’ch lluniau a bydd croeso cynnes iawn yn aros amdanoch chi. Peidiwch â phoeni os na allwch ddod i’r digwyddiad ar 5 Hydref, gallwch ddod âch lluniau i mewn rywbryd eto, ffoniwch y Swyddfa Gofnodion ar 01244 532364 i wneud apwyntiad.