Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygiad Terfynau Cyflymder Priffyrdd 
  		Published: 15/09/2017
Ddydd Mawrth, 19 Medi, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd y Cyngor yn 
ystyried adroddiad sy’n manylu ar gynnydd ymrwymiad y Cabinet ym mis Medi 2016 
i adolygu a mynd i’r afael ag anghysondebau hanesyddol o ran gorchmynion 
terfynau cyflymder yr Awdurdod a chreu Un Gorchymyn Terfynau Cyflymder wedii 
Gydgrynhoi a fydd yn sicrhau bod gorchmynion terfynau cyflymder y sir yn 
briodol ac yn gyfreithlon. 
Mae nifer o gamau gweithredu allweddol wedi eu cymryd wrth i’r Cyngor 
ddatblygu’r Gorchymyn Terfynau Cyflymder wedii gydgrynhoi, gan gynnwys creu 
proses haws i ysgrifennu gorchmynion ac ymarfer mapio syn cofnodi lleoliad yr 
holl derfynau cyflymder presennol. 
Gofynnwyd i bob Aelod amlygu unrhyw bryder oedd ganddynt am derfynau cyflymder 
yn eu wardiau ac, o ganlyniad, derbyniwyd 100 o geisiadau am adolygu terfynau 
cyflymder. Cafodd pob cais ei asesu yn erbyn meini prawf yr Adran Drafnidiaeth 
i benderfynu a oedd angen newid y terfynau cyflymder presennol. 
Cafwyd ymrwymiad hefyd i adolygu holl derfynau cyflymder y sir dros gyfnod o 
bum mlynedd i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion yr Adain Drafnidiaeth unwaith 
y mae’r Gorchymyn Terfynau Cyflymder wedii Gydgrynhoi yn ei le. Fodd bynnag, 
mae’r broses hon wedi ei dwyn ymlaen yn dilyn adolygu rhannau o’r rhwydwaith 
ffyrdd a nodwyd gan Aelodau. 
Rhagwelir y bydd y Gorchymyn Terfynau Cyflymder wedii Gydgrynhoi yn cael ei 
hysbysebu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 16 Hydref 2017 am gyfnod cyfnod 
statudol o 21 diwrnod, gyda’r bwriad o hysbysebu’r cydgrynhoad ym mis Mawrth 
2018. Yn dilyn hynny bydd modd dechrau adolygu terfynau cyflymder unigol y sir. 
Bydd yr holl derfynau cyflymder ar gael i’r cyhoedd eu gweld mewn Llyfrau 
Cyfeirio Map hawdd eu darllen ym mhrif lyfrgelloedd y sir, Neuadd y Sir yr 
Wyddgrug, Depo Alltami ac ar wefan y Cyngor. 
Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: 
“Mae yna anghywirdebau yn rhai o’r gorchmynion terfynau cyflymder oherwydd 
newidiadau i elfennau o’r rhwydwaith ffyrdd a oedd yn arfer dynodi dechrau a 
diwedd y gorchmynion gwreiddiol. 
“Wrth symud tuag at greu un gorchymyn terfynau cyflymder wedii gydgrynhoi 
rydym ni’n gallu symleiddio’r broses gymhleth a defnyddio ein hadnoddau yn fwy 
effeithiol i fynd ir afael âr anghywirdebau presennol. 
“Bydd creu system fap electronig o gymorth mawr i ddod â’r hen broses 
ysgrifennu gorchmynion i ben, gan alluogi gweld a hysbysebu terfynau cyflymder 
yr Awdurdod ar ffurf map syml.
“Hoffaf ddiolch ir Aelodau am gyfrannu at yr adolygiad hwn, sydd wedi ein 
helpu ni i wneud cynnydd da, cadarn a manwl.”