Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Sector Menter Gymdeithasol yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol

Published: 30/09/2022

Mae’r sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol gan Social Enterprise UK, corff aelodaeth y DU ar gyfer menter gymdeithasol.

Yn ystod pandemig Covid a’r cyfnodau clo cysylltiedig, datblygodd Grwp Budd-ddeiliaid o fentrau cymdeithasol, gan gynnwys CIC RainbowBiz, Dangerpoint, Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru, CIC Cafgas, CIC Beyond the Boundaries, CIC Art and Soul Tribe, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf a Thai Clwyd Alyn gan Swyddog Menter Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, gais i dderbyn cydnabyddiaeth am statws ‘Lleoedd Menter Gymdeithasol’.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Fel awdurdod lleol, rydym yn falch iawn o gyflawniadau’r sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint. Mae menter gymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac yn parhau i fod. Yn ystod y pandemig, gwelsom wir bwer mentrau cymdeithasol a sut wnaethant gamu ymlaen i gefnogi pobl mewn angen gwirioneddol.”

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n masnachu ar gyfer dibenion cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae mwy na 100,000 o fentrau cymdeithasol yn y DU, yn cyfrannu £60 biliwn i’r economi ac yn cyflogi oddeutu dwy filiwn o bobl. 

Mae mentrau cymdeithasol yn dangos ffordd well o wneud busnes, un sy’n blaenoriaethu buddion i bobl a’r blaned ac yn defnyddio mwyafrif eu helw i ddatblygu eu cenhadaeth ymhellach. 

Mae mentrau cymdeithasol yn cyfrannu tuag at leihau annhegwch economaidd, gwella cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Er mwyn cydnabod y cyflawniad hwn, cynhaliodd Grwp Budd-ddeiliaid Menter Gymdeithasol Sir y Fflint ddathliad ar 29 Medi.

Roedd y siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys; Neal Cockerton, Prif Weithredwr y Cyngor, Clive Hirst, sylfaenydd Lleoedd Menter Gymdeithasol, Social Enterprise UK ac aelodau o Grwp Budd-ddeiliaid Menter Gymdeithasol Sir y Fflint.

Yn dilyn cyflwyniad, cafwyd perfformiad gan Art n Soul Tribe gyda chinio rhwydweithio i ddilyn, a ddarparwyd gan fenter gymdeithasol.

Yn y prynhawn, cafodd y cynrychiolwyr gyfle i ymweld â mentrau cymdeithasol ar draws Sir y Fflint, eu gweld yn gweithredu a holi’r entrepreneuriaid tu ôl iddynt.

Os hoffech ddarganfod mwy am fenter gymdeithasol neu os ydych yn meddwl am sefydlu un, cysylltwch â Swyddog Menter Gymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Mike Dodd ar mike.dodd@flintshire.gov.uk

FCCSocialEnterprise-small.jpg