Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir Diwygiedig

Published: 15/09/2017

Mae swyddogion gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn darparu gorfodaeth parcio ac amgylcheddol sifil. Mae partner arbenigol, Kingdom wedi bod yn darparu gorfodaeth amgylcheddol ar bethau megis baw cwn a thaflu sbwriel dros y flwyddyn ddiwethaf fel cynllun peilot 12 mis. Bydd gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd adolygur cynnig i gael un Partner Busnes ar gytundeb tymor byr o 2 flynedd (gyda dewis i ymestyn ar sail perfformiad) i gyflawni gorfodaeth o drosedd amgylcheddol lefel isel, megis troseddau baw cwn a pharcio ceir ar ran y Cyngor. Bydd yn gadael y tîm mewnol i ddelio â throseddau amgylcheddol lefel uwch megis tipio anghyfreithlon, gwastraff ychwanegol a cherbydau wedi eu gadael. Mae’r peilot cyfredol gyda Kingdom wedi bod yn llwyddiannus, gyda 4,726 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u rhoi rhwng mis Gorffennaf ’16 a mis Mehefin ’17, o’i gymharu â’r 195 a roddwyd y flwyddyn flaenorol. Mae hyn wedi cael effaith fuddiol ar lanweithdra canol ein trefi a mannau agored, fel y dangoswyd yn ein perfformiad gwell a fesurwyd drwy archwiliadau cenedlaethol a gyflawnwyd gan Cadwch Gymrun Daclus. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu gwastraff cartref o holl eiddo domestig, ac mae ganddo bwerau penodol i roi Hysbysiad o Gosb Benodedig i breswylwyr sydd ddim yn rhoi eu gwastraff yn y cynhwysion cywir (er enghraifft, gwastraff mewn bagiau plastig yn hytrach nar bin a ddarparwyd gan y Cyngor.) Ym mis Gorffennaf, cymeradwyodd y Cyngor adroddiad yn cyflwyno newidiadau i wasanaeth gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor – gan gynnwys gorfodi preswylwyr mynych sydd yn parhau i adael gwastraff ychwanegol ar ôl cael cyngor a rhybuddion. Hefyd gofynnir i’r Pwyllgor sut y byddai well ganddo i’r Cyngor ddelio â gorfodi gwastraff ychwanegol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r adroddiad hwn yna adolygur opsiwn oraur gwasanaeth gan ystyried ystod o weithgareddau gorfodol maen rhaid iddo ei gyflenwi. Mae’r adroddiad yn gwneud argymhelliad i ymgysylltu â phartner busnes i gyflawni’r orfodaeth o drosedd amgylcheddol lefel isel, rheoli cwn a throseddau parcio ceir ar ran y Cyngor. Bydd gorfodaeth tipio anghyfreithlon a cherbydau wedi eu gadael yn aros gyda’r Cyngor ynghyd â gorfodi gwastraff ychwanegol bin du ar olwynion.” Bydd yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor yn cael eu hystyried yng nghyfarfod o’r Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.