Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffocws Sir y Fflint ar goed

Published: 30/09/2022

Mae gan wefan Cyngor Sir y Fflint  fap rhyngweithiol sy’n dangos y coed sy’n destun Gorchmynion Diogelu Coed a’r Ardaloedd Cadwraeth yn y sir lle caiff coed eu diogelu. tree.jpg

Mae hyn yn caniatáu i gontractwyr coedyddiaeth, perchnogion coed ac aelodau o’r cyhoedd nodi pa goed sy’n cael eu diogelu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Gellir lawrlwytho copïau o’r Gorchmynion Diogelu Coed oddi ar y wefan.   Mae’r dudalen we hefyd yn cynnwys gwybodaeth ategol ynghylch gofalu am a chynnal a chadw coed.    

Yn ei gapasiti fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae’r cyngor wedi bod yn arolygu coed ynn aeddfed ar hyd priffyrdd i nodi unrhyw ddirywiad a achoswyd gan glefyd coed ynn.  Mae’r cyflwr wedi bod yn bresennol yn y sir ers o leiaf 2015 ac wedi arwain at ddirywiad a marwolaeth miloedd o goed.   Mae’r arolwg wedi nodi coed sydd mewn perygl sylweddol ac a allai ddisgyn i’r briffordd.  Cynghorir perchnogion y coed hynny i gymryd camau i fynd i’r afael â’r broblem hon.  

Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybuddion cyfreithiol dan y Ddeddf Priffyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion tir fynd i’r afael â choed anniogel.  Os daw hi i’r pen, lle bo perchennog yn methu â mynd i’r afael â’r risg, bydd y Cyngor yn ymgymryd â’r gwaith coed ac yn adennill y costau.   Y neges i berchnogion tir yw na fydd y cyngor yn rheoli eich coed, eich cyfrifoldeb chi yw hynny. 

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal arolygon coed ar ei dir ei hun ac yn rheoli gwarediad coed ynn wedi’u heintio yn unol â lefel y risg. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am glefyd coed ynn a sut mae’r Cyngor yn ymdrin â’r risgiau sydd ynghlwm â’r clefyd ar wefan y Cyngor.

Bydd Parc Gwepra’n cynnal Diwrnod Coed a Pherllannau ddydd Sul, 9 Hydref, 11am - 3pm.   Ymunwch â’r ceidwaid a’r tîm cadwraeth ar gyfer gweithgareddau coediog.  Rheoli coetiroedd a pherllannau, arddangosiadau impio, gwasgu afalau a mwy. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu, gallwch archebu lle ar y daith a’r sgwrs ar Eventbrite.