Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amgueddfa Bwcle yn ailagor

Published: 20/09/2017

Yn dilyn ailddatblygiad sylweddol, ail-agorwyd Amgueddfa Bwcle yn ffurfiol yr wythnos hon gan y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ian Bancroft. Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn y seremoni yn cynnwys Liz Stewart o National Museums Liverpool sy’n cynnwys nifer o arteffactau o ardal Bwcle. Mae’r Amgueddfa’n gweithio’n agos gydag Amgueddfa Bwcle i sicrhau ei bod yn “amgueddfa byw” gyda chasgliad sy’n newid o hyd. Siaradodd Paul Davies o Gymdeithas Bwcle am y sesiynau a gaiff eu rhedeg gan y gymdeithas yn yr amgueddfa i bobl ifanc a phobl hyn – gan ddod ag atgofion i fywyd ac addysgu’r preswylwyr ifanc am eu treftadaeth. Roedd aelodau o Gyngor Tref Bwcle, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd y Cwmni Hamdden a Llyfrgelloedd newydd, Aura, hefyd yn bresennol. Dywedodd Ian Bancroft: “Roedd Cyfoeth Cymru Gyfan Bwcle wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae wedi codi safonau’r amgueddfa’n llwyr gan alluogi gwrthrychau i gael eu benthyca gan National Museums Liverpool.” Mae’r arddangosfeydd ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle, ac maen nhw’n edrych ar orffennol diwydiannol yr ardal. Mae pwyslais penodol ar gynhyrchu crochenwaith ym Mwcle. Gall ymwelwyr weld uchafbwyntiau o gasgliad Martin Harrison o gerameg Bwcle. Mae’r arddangosfa hefyd yn edrych ar Jiwbilî Bwcle a’r clwb nos enwog Tivoli. Mae’r amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a dydd Sadwrn rhwng 9.30 a 12.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.