Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich Llwybr i Faes Arlwyo!

Published: 22/09/2017

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn eisiau rhoi’r cyfle i bobl ifanc yn y Fflint i fod yn rhan o’r busnes arlwyo. Maent yn cynnig cwrs ar y cyd i roir cyfle i breswylwyr lleol gael hyfforddiant, sgiliau a phrofiad mewn swyddi arlwyo a domestig. Mae’r cwrs sy’n para am bythefnos yn cychwyn ddydd Mawrth, 10 Hydref ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint. Bydd yr wythnos gyntaf yn cynnwys hyfforddiant achrededig am amrywiaeth o destunau gan gynnwys hylendid bwyd, codi a symud yn gorfforol, iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid. Yn dilyn hyn, bydd ymweliadau safle i sefydliadau arlwyo lleol, cymorth gyda llunio CV a gweithdy meithrin hyder. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Dyma gyfle gwych i bobl yn y Fflint i gael profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith yn y busnes arlwyo. Mae’n enghraifft wych arall o’r gwaith partneriaeth sy’n digwydd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Clwyd Alyn. Nid yn unig bydd y cyfranogwyr yn cael cymwysterau gwerthfawr, byddant hefyd yn cael y cyfle i fanteisio ar gyfnodau blasu gwaith a phrofiad gwaith sydd ar gael.” Dywedodd Lisa Ramage, Ymgynghorydd Datblygu a Dysgu ar gyfer Grwp Tai Pennaf, sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn: “Fel un o brif gyflogwyr yr ardal, rydym wrth ein boddau yn cefnogi’r fenter hyfforddiant a chyflogaeth wych hon. Yn ogystal â chynnwys hyfforddiant sgiliau pwysig, rydym yn gallu cynnig cipolwg ar yrfaoedd arlwyo yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn drwy gynnig diwrnodau blasu gwaith yn ein heiddo presennol yng Nghaffi’r Hen Lys a’r Hwb Treftadaeth yn y Fflint a chynllun tai Gofal Ychwanegol Llys Eleanor ar gyfer pobl hyn yn Shotton. “Mae’r rhaglen yn helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan i gael hyfforddiant achrededig a sgiliau newydd, ond mae hefyd yn helpu pobl ar eu taith yn ôl i waith fel eu bod mewn sefyllfa wych i ymgeisio am swyddi arlwyo a domestig pan fyddant yn cael eu hysbysebu, yn cynnwys yn ein Cynllun Gofal Ychwanegol yn Llys Raddington sy’n agor yn y Fflint y flwyddyn nesaf.” Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sy’n gweithio i gefnogi, meithrin sgiliau a chynnig profiad i unigolion i helpu i wella eu cyfle o gael gwaith cyflogedig. Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n gweithredu ar draws chwe sir yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Maen nhw wrthi datblygu nifer o Gynlluniau Gofal Ychwanegol, ac mae un yn y Fflint, sef Llys Raddington, i fod i agor yn 2018. I gael mwy o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y cwrs, ffoniwch Nia Parry, Cymunedau yn Gyntaf, ar 01244 846090 neu anfonwch neges e-bost at: nia.parry@siryfflint.gov.uk.