Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bore coffi elusennol y Cadeirydd

Published: 20/09/2017

Caiff elw o fore coffi a gaiff ei gynnal gan Gadeirydd Sir y Fflint, y Cyng Brian Lloyd a’i wraig, ddydd Sadwrn yma 23 Medi ei roi i’r tair elusen a enwebwyd gan y Cadeirydd yn ystod ei flwyddyn yn ei swydd. Cynhelir y bore coffi yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug rhwng 9 ac 11:30am ac mae croeso i bawb ddod i fwynhau’r lluniaeth. Bydd stondin bric a brac a raffl hefyd. Bydd arian a gaiff ei godi yn mynd i Hosbis Plant Claire House, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r trefnwyr, y Cyng Brian Lloyd 07734579898 neu Lesley neu Karen 01352 702151.